Fe fydd digonedd o gefnogwyr Cymru'n teithio i Ffrainc ym mis Mehefin, yn ôl Osian Roberts (llun: CBDC)
Gyda 100 diwrnod i fynd nes i Ewro 2016 ddechrau, mae is-reolwr tîm pêl-droed wedi mynnu bod amser o hyd i ambell chwaraewr geisio creu digon o argraff i sicrhau eu lle yn y garfan.

Fe aeth golwg360 draw i gyfarfod Osian Roberts yn ddiweddar er mwyn cael clywed sut mae paratoadau’r tîm yn mynd, a’r cyffro sydd eisoes yn adeiladu.

Mae Chris Coleman a’i staff hyfforddi wedi bod wrthi’n cynllunio ers misoedd ar gyfer y gystadleuaeth, gyda Chymru’n wynebu gemau grŵp yn erbyn Slofacia, Lloegr a Rwsia ym mis Mehefin.

Ac fe fydd yr un peth yn wir am gefnogwyr y tîm, gyda thros 21,000 o docynnau eisoes wedi’u gwerthu i’r Cymry ar gyfer y tair gêm grŵp yn Ffrainc.

Dyma rywfaint o beth oedd gan is-reolwr Cymru i’w ddweud am y twrnament sydd wedi cyffroi’r genedl:

Fe gyfaddefodd Osian Roberts y byddai’n “benderfyniad od” petai Chris Coleman yn dechrau newid ei garfan yn sylweddol nawr, gyda gemau cyfeillgar paratoadol yn erbyn Gogledd Iwerddon a’r Wcráin i ddod fis yma.

“Ond dydi hynny ddim yn golygu bod y drws wedi cau, ac mae ‘na unigolion sydd un ai wedi bod yn y garfan neu’n agos iawn at y garfan efo ‘chydig o fisoedd yn weddill i brofi eu bod nhw’n mynd i orffen y tymor efo momentwm a pherfformiadau cryf y tu cefn iddyn nhw,” ychwanegodd yr is-reolwr.

Fe gadarnhaodd y gŵr o Fôn bod disgwyl i Gymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd gynnal rhyw fath o ddigwyddiad ym mis Mai er mwyn i gefnogwyr gael ffarwelio â’r tîm cyn iddyn nhw deithio i Ffrainc.

A doedd ganddo ddim amheuaeth y byddai’r cyffro yn cynyddu fwyfwy wrth i’r gystadleuaeth sydd yn dechrau ar 10 Mehefin agosáu.

“[Mae] hyn yn mynd i fod yn brofiad anhygoel i ni fel cenedl ac yn sicr i’r cefnogwyr sy’n mynd allan,” meddai.

“O be’ dw i’n ddallt dw i ddim yn meddwl fydd ‘na fawr neb ar ôl yng Nghymru ym mis Mehefin, ac efallai y bydd rhaid i’r person olaf droi’r goleuadau i ffwrdd!”

Cyfweliad: Iolo Cheung