Dwayne Peel yn ei ddyddiau gyda Chymru
Mae cyn-fewnwr Cymru Dwayne Peel wedi cyhoeddi ei fod am ymddeol o rygbi yn dilyn cyngor meddygol.

Fe enillodd Peel 79 cap dros Gymru a’r Llewod yn ystod ei yrfa, ac roedd yn rhan o’r tîm gipiodd y Gamp Lawn yn 2005 a 2008.

Ond ar ôl symud i Sale yn 2008 fe ddechreuodd ganfod ei hun ar gyrion cynlluniau hyfforddwr Cymru Warren Gatland, ac fe enillodd ei gap olaf dros ei wlad yn 2011.

Hyfforddi

Ar ôl cael trafferth gwella o anaf i’w ysgwydd eleni gyda chlwb Bryste, mae’r chwaraewr 34 oed wedi penderfynu rhoi’r gorau iddi.

Fe fydd Peel, a ddechreuodd ei yrfa gyda Llanelli ac yna’r Scarlets, nawr cymryd rôl hyfforddi gyda Bryste.

“Yn dilyn y cyngor meddygol, doedd gen i ddim llawer o ddewis,” meddai Peel wrth wefan y clwb.

“Rydw i wedi bod yn ffodus iawn i fwynhau profiadau anhygoel yn ystod fy ngyrfa chwarae ac wedi cyfarfod â phobl wych.”