Aberystwyth 2–4 Caerfyrddin                                                       

Sgoriodd Mark Jones hatric yn erbyn ei gyn glwb wrth i Gaerfyrddin drechu deg dyn Aberystwyth ar Goedlan y Parc nos Sadwrn.

Yr ymwelwyr aeth â hi o bedair gôl i ddwy yn y frwydr am y seithfed safle holl bwysig yn Uwch Gynghrair Cymru wedi i flaenwr Aber, Rhys Griffiths, gael ei anfon o’r cae.

Er nad oedd llawer o lif yn perthyn i chwarae’r naill dîm na’r llall roedd hi’n gêm lawn ddigwyddiad. Dylai Caerfyrddin fod wedi cael cic o’r smotyn hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf wedi i Stuart Jones lorio Kyle Bassett ond wnaeth y dyfarnwr ddim ei rhoi hi.

Daeth unig gôl yr hanner cyntaf i Aberystwyth, ac allan o unman braidd ychydig funudau cyn yr egwyl. Cafwyd gwaith da ar y chwith gan Craig Williams, yn curo’i ddyn ac yn croesi i roi peniad syml ar blât i Griffiths yn y cwrt cosbi.

Unionodd yr Hen Aur yn fuan wedi troi, Mark Jones yn gorffen yn grefftus yn erbyn ei gyn glwb yn dilyn gwaith creu taclus Ceri Morgan a Lewis Harling.

Aeth Aberystwyth i lawr i ddeg dyn ar yr awr wedi eiliad wan gan un o’r chwaraewyr mwyaf profiadol ar y cae, Griffiths yn derbyn ail gerdyn melyn a cherdyn coch am gic slei ar Dwaine Bailey.

Y deg dyn serch hynny a aeth ar y blaen ddau funud yn ddiweddarach, Geoff Kellaway yn creu lle iddo’i hun yn y cwrt cosbi cyn crafu ergyd wan heibio i Lee Idzi yn y gôl.

Caerfyrddin a orffennodd orau ac roeddynt yn gyfartal gyda deunaw munud i fynd diolch i gôl Jordan Knott, yr amddiffynnwr canol yn rhwydo gyda sodliad deheuig wrth i’r bêl wyro i’w lwybr oddi ar y trawst.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedyn gyda deg munud i fynd wrth i Jones sgorio’i ail, a’i gyntaf o ddwy gic o’r smotyn. Daeth honno yn dilyn llawiad Chris Venables yn y cwrt cosbi, a chwblhaodd Jones ei hatric yn yr eiliadau olaf gyda gôl arall o ddeuddeg llath yn dilyn trosedd Mike Lewis arno.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Caerfyrddin dros Fangor i’r wythfed safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair, bwynt yn unig y tu ôl i Aber sydd yn aros yn seithfed.

.

Aberystwyth

Tîm: Lewis, Corbisiero, Jones, Surman, Davies (Batley 84’), James, Venables, Kellaway, Evans, Williams, Griffiths

Goliau: Griffiths 41’, Kellaway 64’

Cardiau Melyn: Griffiths 56’ 61’, Corbisiero 63’, Venables 79’

Cerdyn Coch: Griffiths 61’

.

Caerfyrddin

Tîm: Idzi, Sheehan, Vincent, Bailey, Knott, Hanford (Prosser 70’), Morgan, Harling, Bassett, Thomas, Jones

Goliau: Jones 51’, Knott 72’, Jones [c.o.s.] 80’, [c.o.s.] 90’

Cardiau Melyn: Vincent 31’, Morgan 47’, Harling 69’

.

Torf: 189