Macclesfield 0–0 Wrecsam                                                            

Di sgôr oedd hi yn y Gynghrair Genedlaethol rhwng Macclesfield a Wrecsam ar Moss Rose brynhawn Sadwrn.

Ar ôl sgorio dwy ym muddugoliaeth ganol wythnos y Dreigiau, Kayden Jackson, a ddaeth agosoaf at agor y sgorio i’r ymwelwyr yn yr hanner cyntaf ond tarodd ei gynnig yn erbyn y postyn yn dilyn rhediad da.

Bu bron i’r ymosodwr rwydo yn yr ail hanner hefyd ond cafodd ei gynnig ei glirio oddi ar y llinell wrth i’r Dreigiau orfod bodloni ar bwynt yn unig.

Mae’r pwynt hwnnw yn ddigon i’w cadw yn safleoedd ail gyfle’r Gynghrair Genedlaethol serch hynny, gyda rhai o’r timau eraill o’u cwmpas ddim yn chwarae.

.

Macclesfield

Tîm: Jalal, Halls, Pilkington, Holroyd, Fitzpatrick, Byrne (Diagne 76’), Turnbull, Whitaker, Whitehead, Sampson (Phillips 82’), Dennis

Cerdyn Melyn: Sampson 62’

.

Wrecsam

Tîm: Taylor, Carrington, Smith, Hudson, Newton, Heslop, Fowler (Smith 81’), Evans, Beck (York 77’), Jackson, Jennings