Casnewydd 1–0 Mansfield
Roedd gôl hwyr Scott Boden yn ddigon i Gasnewydd wrth iddynt guro Mansfield ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.
Mae’r canlyniad yn codi’r Cymry wyth pwynt yn glir o safleoedd y gwymp yn yr Ail Adran.
Mansfield a ddaeth agosaf at agos y sgorio mewn hanner cyntaf di sgôr ond tarodd cynnig Matt Green yn erbyn y postyn.
Digon di fflach oedd yr ail hanner hefyd, ond gyda gêm gyfartal yn ymddangos yn fwyfwy tebygol fe gipiodd Boden y tri phwynt i’r tîm cartref bedwar munud o ddiwedd y naw deg.
Mae’r canlyniad yn codi’r Alltudion dros Stevenage i’r pedwerydd safle ar bymtheg yn nhabl yr Ail Adran, wyth pwynt yn glir o’r safleoedd disgyn gyda phymtheg gêm yn weddill.
.
Casnewydd
Tîm: Day, Holmes, Jones, Hughes, Davies, Barrow (Klukowski 66’), Elito, Byrne, Ayina, Boden, Wilkinson (Morgan 82’)
Gôl: Boden 86’
Cardiau Melyn: Klukowski 71’, Byrne 76’, Boden 89’
.
Mansfield
Tîm: Shearer, Alfei, Collins, Tafazolli, Benning, Blair (Rose 68’), McGuire, Clements, Daniel (Kavanagh 72’), Green, Baxendale (Yussuf 56’)
Cardiau Melyn: Green 22’, Shearer 87’, Alfei 89’
.
Torf: 2,361