Caerdydd 2–1 Preston
Sgoriodd Anthony Pilkington o’r smotyn ddwy waith wrth i Gaerdydd guro Preston yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.
Tynnodd yr ymwelwyr un yn ôl wedi hynny ond daliodd y Cymry eu gafael gan godi i’r seithfed safle yn nhabl y Bencampwriaeth.
Bu bron i Pilkington agor y sgorio gyda pheniad ond cafodd ei atal gan arbediad gwych Anders Lindegaard yn y gôl i Preston.
Daeth y gôl agoriadol yn y diwedd funud cyn yr egwyl, Pilkington yn sgorio o ddeuddeg llath yn dilyn trosedd arno yn y cwrt cosbi gan Paul Huntington.
Bu rhaid i Lindegaard fod yn effro eto i atal Pilkington eto ar ddechrau’r ail hanner a bu rhaid aros tan ddeg munud o ddiwedd y naw deg tan yr ail gôl.
Daeth honno o’r smotyn hefyd gyda Pilkington yn rhwydo’n daclus eto yn dilyn gwaith da gan ymosodwr Cymru, Tom Lawrence, i ennill y gic.
Tynnodd Callum Robinson un yn ôl i’r ymwelwyr yn fuan wedi hynny ond gôl gysur yn unig oedd hi wrth i’r Adar Gleision ddal eu gafael.
Mae’r fuddugoliaeth yn codi Caerdydd i’r seithfed safle yn y tabl, dri phwynt yn unig y tu allan i’r safleoedd ail gyfle.
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Peltier, Ecuele Manga, Connolly, Malone, Lawrence (Ameobi 90’), O’Keefe, Gunnarsson, Ralls, Pilkington (Dikgacoi 82’), Immers (Zohore 90’)
Goliau: Pilkington [c.o.s.] 44’, [c.o.s.] 80’
Cardiau Melyn: Peltier 69’, Ralls 75’
.
Preston
Tîm: Lindegaard, Woods, Clarke, Huntington (Robinson 45’), Wright, Cunningham, Browne, Gallagher (Pearson 84’), Johnson (Hugill 63’), Reach, Garner
Gôl: Robinson 87’
Cardiau Melyn: Cunningham 81’, Browne 85’
.
Torf: 15,566