Graham Potter, cyn-reolwr tîm pêl-droed Abertawe, yw’r ffefryn i fod yn rheolwr nesaf Lloegr.

Daw hyn ar ôl i Gareth Southgate gyhoeddi ei ymadawiad ar ôl wyth mlynedd yn y swydd.

Daeth ei gyhoeddiad ar ôl i Loegr golli o 2-1 yn erbyn Sbaen yn rownd derfynol Ewro 2024, yr ail waith yn olynol iddyn nhw golli yn y ffeinal.

Un arall o’r ffefrynnau yw Eddie Howe, rheolwr Newcastle.

Ond mae lle i gredu bod Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yn ffafrio Graham Potter, sy’n ddi-waith ers iddo fe gael ei ddiswyddo gan Chelsea fis Ebrill diwethaf.

Mae enw Mauricio Pochettino, cyn-reolwr arall Chelsea, hefyd ar y rhestr fer, yn ôl adroddiadau.