Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd yn dweud eu bod nhw wedi gorfod datrys nifer o faterion gweinyddol cyn cadarnhau mai Nelson Jardim yw prif hyfforddwr newydd y clwb.

Daeth cadarnhad yn ddiweddar ei fod e’n arwain y tîm hyfforddi, ond mae teitl ei swydd newydd bellach wedi’i gyhoeddi.

Yn ôl y cadeirydd Huw Jenkins, fe wnaeth Nelson Jardim “benderfyniad mawr” wrth adael ei deulu ym Mhortiwgal er mwyn symud i Gymru.

Ychwanegodd fod y clwb bellach wedi derbyn cadarnhad o’i hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig.

Gyrfa

Cafodd Nelson Jardim ei benodi’n hyfforddwr gydag Abertawe pan gafodd Paulo Sousa ei benodi’n rheolwr yn 2009.

O’r fan honno, symudodd y ddau i Gaerlŷr y tymor canlynol.

Ond dychwelodd Jardim i Bortiwgal i ddod yn is-reolwr Nacional cyn dychwelyd i Abertawe yn 2017, yn wreiddiol fel prif hyfforddwr yr Academi ac yna’n hyfforddwr y tîm cyntaf o dan reolaeth Francesco Guidolin, Paul Clement a Carlos Carvalhal.

Ymunodd â thîm hyfforddi Aitor Karanka yn Birmingham yn 2020 cyn mynd adref i Bortiwgal i reoli Maritimo B.

Yn ymuno â’i staff yng Nghasnewydd fydd ei brif hyfforddwr cynorthwyol Dafydd Williams, ei hyfforddwr gôl-geidwaid Jim Hollman, ei Bennaeth Perfformiad Scott Wickens (Cryfder a Chyflyru) a’i brif ddadansoddwr Connor McGaharan.

Bydd David Pipe a Mark O’Brien hefyd yn aros gyda’r clwb, sydd wedi penodi Triston Jenkins yn brif ffisiotherapydd.