Bydd tîm pêl-droed merched Cymru’n wynebu Cosofo yn eu gêm olaf yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2025 heno (nos Fawrth, Gorffennaf 16).

Byddai gêm gyfartal yn ddigon i dîm Rhian Wilkinson orffen ar frig Grŵp B4.

Golyga hyn y bydd Cymru’n osgoi chwarae yn erbyn rhai o’r timau cryfaf yn rownd gyn-derfynol y gemau ail-gyfle.

Bydd hefyd yn sichrau bod Cymru’n dychwelyd i haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd ar gyfer tymor 2025-26.

Mae Cosofo ar waelod y grŵp wedi iddyn nhw golli pob un o’u pum gêm hyd yn hyn.

Yn y gêm heno, bydd Jess Fishlock yn ceisio cyrraedd brig y rhestr o sgorwyr goliau dros ferched Cymru.

Sgoriodd hi gôl rhif 44 yn y fuddugoliaeth yn erbyn Croatia ddydd Gwener (Gorffennaf 12), gan ddod yn gyfartal â Helen Ward o ran goliau.

Wrth siarad cyn y gêm, dywedodd Angharad James, capten y tîm, ei bod yn “anrhydedd gwisgo’r crys” a’i bod yn “foment balch” iddi.

“Ie, mae Cosofo yn mynd i fod yn gêm anodd,” meddai.

“Ro’n i’n gwybod pan o’n i allan yng Nghosofo, yn enwedig yn yr hanner cyntaf, eu bod nhw yn galed i torri lawr.

“A ni’n gwybod bo ni’n disgwyl hwnna nos yfory hefyd, ond ni’n gwybod os ni’n canolbwyntio ar ein hunain, perfformiad ein hunain, byddwn ni’n gobeithio gallu cael y job wedi’i wneud.”