Mae Luke Williams, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn gobeithio am greadigrwydd gan Eom Ji-sung, chwaraewr canol cae ymosodol ac asgellwr newydd y clwb.

Mae Eom wedi ymuno o glwb Gwangju FC yn ei famwlad am swm sydd heb ei ddatgelu, ac mae’r trosglwyddiad yn ddibynnol ar fisa a chaniatâd rhyngwladol.

Eom yw’r ail chwaraewr i ymuno â’r clwb yn ystod y ffenest drosglwyddo bresennol, yn dilyn Goncalo Franco, chwaraewr canol cae 22 oed o Bortiwgal.

Fe fu Luke Williams yn sôn ers tro bod angen mwy o gywirdeb ymosodol ymhlith y blaenwyr, ac mae Eom wedi llofnodi cytundeb pedair blynedd gyda’r Elyrch.

Bydd e’n gwisgo’r crys rhif 10.

‘Cyflymdra a chreadigrwydd’

“Rydyn ni’n gwybod ei fod e’n chwaraewr fydd yn dod â chyflymdra a chreadigrwydd i ni,” meddai Luke Williams.

“Mae ganddo fe’r gallu i chwarae mewn safleoedd amrywiol, ac mae gennym ni gyfle i asesu hynny mewn ymarferion a gemau cyfeillgar.

“O hynny, gallwn ni adeiladu darlun o sut mae e’n hoffi chwarae’n llydan neu wrth ddod i mewn i safleoedd mwy canolog.

“Roedden ni eisiau cynyddu nifer yr opsiynau ymosodol sydd gennym ni ar y cae ar yr un pryd, a bod yn fwy deinamig yn nhermau sut rydyn ni’n ymosod yng nghanol y cae, ac ar gyrion y cae.

“Gobeithio y gall Ji-sung roi mwy o gyfarpar ac opsiynau deinamig i ni er mwym bod yn fwy bygythiol.”

Gyrfa

Mae gan Eom Ji-sung, sydd wedi cynrychioli ei wlad, bedwar tymor o brofiad mewn pêl-droed proffesiynol.

Enillodd e gap dros ei famwlad wrth sgorio yn erbyn Gwlad yr Iâ yn 2022.

Mae e wedi sgorio ugain gôl mewn 108 o gemau yn y K League i Gwangju ers 2021.

Dywed yr Elyrch fod ei ddenu i’r clwb yn arwydd eu bod nhw’n awyddus i fentro i farchnadoedd rhyngwladol amrywiol er mwyn dod o hyd i chwaraewyr addas.

Bu’r clwb yn dilyn y chwaraewr yn ofalus ers rhai misoedd.

Mae’n hanu o’r un lle â Ki Sung-yueng, y chwaraewr diwethaf o Dde Corea i gynrychioli’r Elyrch.

“Rydyn ni wedi denu rhywun sydd yn hollol o ddifri am ei bêl-droed, ac sydd eisiau chwarae ar y lefel uchaf y gall e,” meddai Luke Williams.

“Mae e’n uchelgeisiol, a bydd e’n gwneud beth bynnag mae angen iddo fe ei wneud er mwyn cyrraedd lle mae e eisiau bod.

“Pan siaradais i â fe, roeddwn i’n teimlo hynny’n dod drosodd, a dw i’n teimlo’n sicr fod gennym ni chwaraewr â’r meddylfryd cywir i ddod yma ac i fod yn rhan o’r hyn rydyn ni eisiau ei wneud ac sy’n deall yr hyn mae’r clwb yn ei olygu i gynifer o bobol.”