“Buenos noches y adios” (Nos da a hwyl fawr) oedd ymateb Liz Saville Roberts neithiwr (nos Sul, Gorffennaf 14) ar ôl i dîm pêl-droed Sbaen guro Lloegr o 2-1 i ennill twrnament Ewro 2024 yn yr Almaen.
Rhwydodd Mikel Oyarzabal yn hwyr yn yr Olympiastadion yn ninas Berlin i achosi torcalon i’r Saeson, gyda thîm y dynion yn parhau heb dlws rhynglwadol ers iddyn nhw ennill Cwpan y Byd yn 1966.
Dyma’r eildro yn olynol i dîm Gareth Southgate golli yn rownd derfynol yr Ewros, ac mae’n ymddangos bod dyfodol y rheolwr yn y fantol o hyd.
Ar ôl hanner cyntaf di-sgôr, arweiniodd pàs Lamine Yamal at ofod i Nico Williams wedi’r egwyl, a hwnnw’n taro’r bêl yn isel heibio i’r golwr Jordan Pickford.
Gadawodd y capten Harry Kane y cae ar ôl awr o gêm siomedig i’r ymosodwr, ond yr eilydd Cole Palmer roddodd lygedyn o obaith i’r Saeson gyda’i gôl ar ôl 73 munud.
Ond daeth y gôl dyngedfennol bedair munud cyn y chwiban olaf, wrth i Marc Cucurella ddarganfod Oyarzabal.
Buenas noches y adios
— Liz Saville Roberts AS/MP (@LSRPlaid) July 14, 2024
Roedd eraill, fel y Prifardd T. James Jones, yn “gweddïo” y byddai Lloegr yn colli.
Yes. Collodd Lloegr! https://t.co/VN56hAwTQE
— T James Jones (@Jimparcnest) July 14, 2024
Cwestiwn cwis oedd gan Elwyn Vaughan o Blaid Cymru:
Pub quiz – what's always coming home but never does?
— elwyn vaughan (@elwyn04) July 14, 2024
A chwestiwn gwleidyddol perthnasol oedd gan Dafydd Iwan:
Da iawn Sbaen, a diolch.
Nawr beth am ryddid Catalwnia a Gwlad y Basg?— Dafydd Iwan (@dafyddiwan) July 14, 2024