Mae’r troellwr coes Mason Crane wedi ymuno â Chlwb Criced Morgannwg yn barhaol.
Mae’r chwaraewr 27 oed wedi llofnodi cytundeb tair blynedd, yn dilyn cyfnod llwyddiannus ar fenthyg o Hampshire y tymor hwn.
Crane sydd ar frig y bowlwyr gorau i’r sir yn y Bencampwriaeth a’r Vitality Blast, y gystadleuaeth ugain pelawd, eleni.
Mae e wedi cipio 17 o wicedi mewn unarddeg o gemau ugain pelawd, gan ildio wyth rhediad y belawd, ac fe gipiodd e bedair wiced am 25 yn erbyn Essex yn Chelmsford.
Does neb yng ngrŵp Morgannwg wedi cipio mwy o wicedi.
Mae e wedi cipio 24 o wicedi yn y Bencampwriaeth, gan gynnwys pum wiced mewn batiad ddwy waith.
Does yna’r un troellwr wedi cipio mwy o wicedi yn ail adran y Bencampwriaeth.
Mae e wedi sgorio 351 o rediadau ar gyfartaledd o 43.87 y batiad, gan gynnwys dau hanner canred, a’i sgôr gorau erioed (61) yn dod yn erbyn Swydd Northampton.
Mae e hefyd wedi’i ddewis fel hapchwaraewr ar gyfer y Tân Cymreig yn y Can Pelen o ganlyniad i’w berfformiadau.
‘Amser gwych i fod yn rhan o’r clwb’
“Dw i wedi bod wrth fy modd bob munud ers ymuno â Morgannwg ar ddechrau’r tymor,” meddai Mason Crane.
“Mae’n amser gwych i fod yn rhan o’r clwb, a dw i’n ddiolchgar iawn am y cyfle i symud yn barhaol.
“Dw i wedi cyffroi’n fawr iawn am y bennod nesaf a’r blynyddoedd i ddod.”
‘Rhagorol’
“Mae Mason wedi bod yn ychwanegiad rhagorol i ni yn 2024, ar y cae ac oddi arno,” meddai Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg.
“Wrth i ni geisio dechrau ar gyfnod newydd o lwyddiant, daw Mason â sgiliau sylweddol, cryn gymeriad a phrofiad sydd i gyd wedi bod yn ddylanwad mor bositif ar ein carfan.
“Mae gweld Mason yn mwynhau’r amgylchfyd gymaint ac yn perfformio mor effeithiol yn gyson yn dyst i’r diwylliant mae ein chwaraewyr wedi ei groesawu fe iddo.
“Rydyn ni’n teimlo’n ffodus iawn o gael rhywun o safon Mason yma yn y clwb, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu rhagor o lwyddiant gyda fe’n rhan o deulu Morgannwg.”
‘Newyddion gwych’
“Mae’n newyddion gwych y bydd Mason yn aros gyda ni’n llawn amser o ddiwedd y tymor hwn,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.
“Mae e wedi cael effaith ragorol ar y cae ac oddi arno y tymor hwn, ac rydyn ni wrth ein boddau ei fod e wedi dewis gwneud Cymru’n gartref iddo ar gyfer y dyfodol agos.”