Mae Wrecsam bellach dau bwynt i ffwrdd o’r gemau ail gyfle yn y Gynghrair Genedlaethol ar ôl trechu Welling oddi cartref o 2-0.

Rhwydodd Lee Fowler gôl gyntaf y Dreigiau ar ôl 33 munud, cyn i Connor Jennings sgorio o’r smotyn funud cyn yr egwyl i ddyblu’r fantais.

Wrecsam reolodd y gêm ac fe allen nhw fod wedi ychwanegu rhagor o goliau yn yr ail hanner gyda Kayden Jackson, Sean Newton a Blaine Hudson i gyd yn cael cyfleoedd.

Mae tîm Gary Mills bellach yn chweched yn y tabl, dau bwynt yn unig y tu ôl i Gateshead a Tranmere.