Chris Gunter
Mae amddiffynnwr Cymru Chris Gunter wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd newydd gyda Reading.

Roedd cytundeb presennol y cefnwr dde yn dod i ben yn yr haf, ond mae nawr wedi arwyddo estyniad tan 2018.

Mae disgwyl i Gunter, sydd yn 26 oed ac wedi ennill 64 cap dros ei wlad, fod yn rhan greiddiol o garfan Cymru yn Ewro 2016 yr haf yma.

Dyfodol Hal yn y fantol

Bellach mae Gunter wedi chwarae dros 150 o gemau i Reading, sy’n fwy nag unrhyw chwaraewr arall yn y clwb oni bai am y Cymro arall, Hal Robson-Kanu.

Tra bod dyfodol Gunter wedi’i sicrhau am y tro, fodd bynnag, nid yw’r un peth ddim yn wir am y blaenwr sydd hefyd yn 26 oed.

Mae cytundeb Robson-Kanu yn dod i ben yn yr haf ond hyd yn hyn nid yw wedi dod i gytundeb â Reading ynglŷn ag estyniad, ac mae’n bosib felly y bydd Ewro 2016 yn gyfle iddo ddangos ei ddoniau er mwyn canfod clwb newydd.