Warren Gatland, hyfforddwr tîm rygbi Cymru ers 2008 (llun: Joe Giddens/PA)
Dyw parhau i ddefnyddio tactegau corfforol a chicio ‘Warrenball’ ddim yn mynd i fod yn ddigon os yw tîm rygbi Cymru am drechu’r goreuon.
Dyna farn y sylwebydd Alun Wyn Bevan wrth iddo drafod arddull y tîm sydd wedi dod mor nodweddiadol ers i Warren Gatland gael ei benodi’n brif hyfforddwr nôl yn 2008.
Mae Cymru wedi ennill un a chael un gêm gyfartal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad hyd yn hyn eleni, wrth iddyn nhw fynd ar ôl eu pedwerydd tlws o dan arweiniad y gŵr o Seland Newydd.
Ond yn ôl Alun Wyn Bevan, mae gormod o’i gyd-sylwebwyr rygbi’n bodloni ar steil Gatland yn hytrach nag annog dull chwarae mwy mentrus.
“Maen nhw’n amharod i feirniadu Warren Gatland, ac amharod i feirniadu’r dull o chwarae,” meddai mewn sgwrs Golwg ar Grwydr diweddar ag Alun Rhys Chivers.
“Ond mae’n biti garw nad yw Cymru yn defnyddio’r bêl, lledu’r bêl, creu bylchau.”
Er bod tactegau Gatland wedi gweithio’n dda dros y blynyddoedd yn y Chwe Gwlad, anaml o hyd y mae Cymru’n llwyddo i drechu cewri hemisffêr y de yng Nghwpan y Byd neu yng ngemau blynyddol yr hydref.
“Mae pawb yn sôn am yr amddiffyn, pawb yn sôn am gicio Biggar a Priestland ac yn y blaen, ond dyn ni ddim yn bylchu a chreu cyfleoedd,” meddai Alun Wyn Bevan.
“Tan ein bod ni’n gwneud hynny ni’n mynd i faeddu’r Alban a’r Iwerddon a thimau llai, ond dyn ni ddim am faeddu Awstralia a Seland Newydd.”
Fe gyfaddefodd y sylwebydd fod dulliau Gatland yn aml yn effeithiol, ond mynnodd y byddai ychydig mwy o amrywiaeth yn chwarae Cymru yn golygu y gallen nhw gamu i’r lefel nesaf.
“Mae e’n dacteg sydd yn mynd i ennill gemau … dw i’n derbyn allwn ni byth â mynd ar y cae, twlu’r bêl am bwti ym mhob un gêm,” meddai.
“Ond yn amlach na pheidio, dull Warren Gatland yw cic gan obeithio y bydd y bêl yn hobo’n garedig, ond liciwn i weld mwy o greadigrwydd.”