Mae adroddiadau mai Steve Cooper fydd rheolwr newydd Clwb Pêl-droed Caerlŷr.

Mae cryn ddyfalu y gallai’r clwb gyhoeddi penodiad y Cymro yn y dyddiau nesaf.

Roedd Cooper, cyn-reolwr Abertawe, hefyd wedi cael ei gysylltu â swydd Cymru pe bai Rob Page yn cael ei ddiswyddo ar ôl colli allan ar le yn yr Ewros.

Un arall sydd wedi cael ei gysylltu â swydd Caerlŷr yw Graham Potter, un arall o gyn-reolwyr yr Elyrch.

Ond mae lle i gredu bellach fod Cooper a Chaerlŷr yn agos iawn at ddod i gytundeb, yn ôl Sky Sports.

Cafodd ei ddiswyddo gan Nottingham Forest ym mis Rhagfyr, ar ôl eu hachub nhw rhag cwympo o Uwch Gynghrair Lloegr y tymor cynt.

‘Ffit da’

“Steve Cooper yw’r un amlwg, a byddai e’n ffit da, ond arian yw’r peth wedyn,” meddai’r sylwebydd a chyflwynydd Dylan Ebenezer wrth golwg360 yn ddiweddar, wrth drafod dyfodol swydd rheolwr Cymru.

“Roedd e’n cael rhyw £2m y tymor gyda Nottingham Forest, ond dyw’r Gymdeithas Bêl-droed ddim yn talu’n agos i hynny.

“Mae yna sôn y byddai e’n fodlon cymryd llai os ydyn nhw’n gallu cwrdd yn y canol…

“Roedd e’n cael ei ganmol am ei dactegau, ac efallai y byddai e’n ffit da iawn.

“Efallai y byddai e’n ei ffansïo hi hefyd, yn gwybod fod ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd a bod hwnnw drosodd mewn cwpwl o fisoedd, ac ymgyrch Cwpan y Byd yn dechrau ym mis Mawrth.

“Gallai e ddweud y byddai’n rhoi cynnig arni am flwyddyn a gweld lle’r ydyn ni arni – byddai’n ddiddorol!

Graham Potter

Caerlŷr yn llygadu dau o gyn-reolwyr Abertawe

Graham Potter yw’r ffefryn ar gyfer swydd y rheolwr, yn ôl adroddiadau, ond maen nhw hefyd yn ystyried Steve Cooper

“Fel dyddiau olaf Bobby Gould”

Alun Rhys Chivers

Mae’n anodd gweld dyfodol i Rob Page yn swydd rheolwr tîm pêl-droed Cymru, yn ôl Dylan Ebenezer