Mae pedwar chwaraewr o Gymru wedi’u dewis yng ngharfan hoci Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd.
Bydd Rupert Shipperley, Jacob Draper, Gareth Furlong a Sarah Jones yn teithio i Paris dros yr haf.
Bydd Sarah Jones yn gobeithio amddiffyn y fedal efydd enillodd hi yn Tokyo yn 2020, neu ragori arni.
Gorffennodd Jacob Draper a Rupert Shipperley yn chweched.
Dyma fydd y tro cyntaf i Gareth Furlong gystadlu ar lefel Olympaidd, ar ôl ennill ei gap cyntaf bythefnos yn ôl.
Mae Draper bellach wedi arwain Prydain ar ôl ennill ei hanner canfed cap.
Bydd dynion Prydain yn herio Sbaen ar Orffennaf 27, a’r menywod yn chwarae yn erbyn yr un wlad y diwrnod canlynol.