Bydd tîm pêl-droed Cymru’n herio De Corea heno (nos Iau, Medi 7, am 7.45yh) mewn gêm gyfeillgar mae’r rheolwr Rob Page wedi dweud y byddai’n well ganddo pe na bai’n cael ei chynnal.

Daw ei sylwadau wrth i’r garfan baratoi ar gyfer gêm ragbrofol Ewro 2024 yn erbyn Latfia yn Riga nos Lun (Medi 11).

Mae disgwyl i nifer sylweddol o chwaraewyr allweddol gael gorffwys heno, ond mae’n debygol y bydd Kieffer Moore a Joe Morrell yn chwarae gan eu bod nhw wedi’u gwahardd ar gyfer y gêm gystadleuol.

Ond mae Dan James allan ag anaf, a bydd yn rhaid i Rob Page gynllunio’n ofalus wrth gylchdroi chwaraewyr eraill fel Aaron Ramsey a Brennan Johnson er mwyn rhoi amser iddyn nhw ar y cae cyn y gêm fawr.

Gwrthwynebwyr newydd

Dydy Cymru a De Corea erioed wedi herio’i gilydd ar y cae pêl-droed, a dyma’r tro cyntaf i Gymru wynebu tîm o Asia ers iddyn nhw golli o 2-0 yn erbyn Iran yng Nghwpan y Byd y llynedd.

Dim ond un o’u deuddeg gêm gystadleuol ddiwethaf mae Cymru wedi’i hennill, gan golli wyth ohonyn nhw, felly mae Rob Page dan gryn bwysau ar drothwy’r ornest yn erbyn Latfia.

Ond roedd yr un fuddugoliaeth honno yn erbyn Latfia fis Mawrth.

Dydy De Corea ddim wedi ennill yr un o’u pum gêm ddiwethaf, gan golli tair ohonyn nhw.

Daeth eu buddugoliaeth ddiwethaf yn erbyn Portiwgal (2-1) yn Qatar.