Everton 1–2 Abertawe                                                                     

Cafodd Francesco Guidolin ddechrau gwych i’w gyfnod wrth y llyw gydag Abertawe wrth i’w dîm guro Everton ar Barc Goodison brynhawn Sul.

Sgoriodd Gylfi Sigurdsson ac André Ayew i’r Elyrch yn yr hanner cyntaf, ac er i Everton reoli’r ail hanner roedd yr ymwelwyr o Gymru wedi gwneud digon i sicrhau ail fuddugoliaeth yn olynol yn yr Uwch Gynghrair.

Dechreuodd y tîm cartref yn dda a bu bron iddynt fynd ar y blaen wedi dim ond tri munud pan darodd Muhamed Besic y postyn gydag ergyd o bellter.

Abertawe yn hytrach a aeth ar y blaen wedi ychydig dros chwarter awr o chwarae pan sgoriodd Sigurdsson o’r smotyn. Cafodd Ayew ei lorio gan Tim Howard yn y cwrt cosbi wedi pas wael yn ôl at y gôl-geidwad gan John Stones a sgoriodd Sigurdsson o ddeuddeg llath.

Unionodd Everton yn fuan wedyn pan wyrodd Jack Cork gynnig Gareth Barry i’w rwyd ei hun.

Roedd yr Elyrch yn ôl ar y blaen cyn yr egwyl serch hynny wedi i gynnig Ayew wyro heibio i Howard wedi gwaith creu Neil Taylor.

Everton heb os oedd y tîm gorau wedi’r egwyl ond er iddynt reoli’r tir a’r meddiant fe amddiffynnodd Abertawe yn gadarn. Cafodd Seamus Coleman gyfle gwych i achub pwynt i’r tîm cartref yn yr eiliadau olaf ond llwyddodd i daro’r bêl dros y trawst o dair llath!

Mae’r canlyniad yn codi Abertawe i’r pymthegfed safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair, yn gyfartal ar bwyntiau gyda Chelsea cyn iddynt hwy herio Arsenal yn y gêm hwyr brynhawn Sul.

.

Everton

Tîm: Howard, Oviedo (Coleman 67′), Stones, Funes Mori, Baines, Barry, Besic (Cleverley 11′), Deulofeu, Barkley, Mirallas (Pienaar 28′), Lukaku

Gôl: Cork [g.e.h.] 24’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Rangel (Naughton 91′), Fernandez, Williams, Taylor, Cork, Britton, Sigurdsson, Ki Sung-yueng, Routledge (Amat 77′), Ayew (Éder 89′)

Goliau: Sigurdsson [c.o.s.] 17’, Ayew 34’

Cardiau Melyn: Rangel 43’, Fabianski 53’, Sigurdsson 67’

.

Torf: 36,908