Fe fydd prif hyfforddwr newydd Abertawe, Francesco Guidolin wrth y llyw am y tro cyntaf ddydd Sul ar gyfer y daith i Everton yn yr Uwch Gynghrair.

Cafodd Guidolin wybod yr wythnos hon yn dilyn ei benodiad y bydd yn parhau yn ei swydd y tu hwnt i ddiwedd y tymor pe bai’r Elyrch yn aros yn y gynghrair.

Daeth Guidolin a’i gynorthwy-ydd Gabriele Ambrosetti i Stadiwm Liberty ddechrau’r wythnos wedi iddyn nhw lofnodi cytundeb tan ddiwedd y tymor.

Bydd Alan Curtis yn parhau’n rheolwr tan ddiwedd y tymor hwn.

Everton

Ar drothwy’r ornest ar Barc Goodison brynhawn Sul, dywedodd Francesco Guidolin ei fod yn awyddus i’w chwaraewyr chwarae “gyda hyder a heb ofn”.

“Rwy wedi cael ymateb gwych gan yr holl chwaraewyr wrth iddyn nhw ymarfer yr wythnos hon.

“Mae eu hagwedd wedi bod yn ardderchog a gallaf eisoes weld eu brwdfrydedd i weithio’n galed bob tro maen nhw’n rhoi eu traed ar y cae.

“Mae meddylfryd cadarn iawn mai dyma’r ffordd maen nhw am weithio, sydd wedi bod yn galonogol iawn i fi.

“Fe fydd yn anodd ddydd Sul gan fod Everton yn dîm da.

“Ond mae fy nhîm i’n dda hefyd ac ni fydd ffordd well o ddechrau fy ngyrfa yn y DU na thrwy gael buddugoliaeth oddi cartref.”

Ond dydy’r Elyrch ddim wedi curo Everton yn eu pum cyfarfod diwethaf, wedi iddyn nhw golli ddwywaith a chael tair gêm gyfartal.

Serch hynny, dim ond tair buddugoliaeth gafodd Everton yn eu 13 gêm diwethaf yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.

Mae’r gic gyntaf am 1.30yp.