Colli oedd hanes Devils Caerdydd nos Sadwrn, wrth iddyn nhw gael eu trechu o 3-2 gan y Sheffield Steelers yng ngogledd Lloegr.

Y Devils oedd ar y blaen ar ddiwedd y cyfnod cyntaf wedi i Ryan Russell ddarganfod y rhwyd yn eiliadau ola’r cyfnod.

Cafodd Chris Culligan ei anafu yn yr ail gyfnod wrth iddo gael ei anfon oddi ar yr iâ am wthio’r gôl-warchodwr Marek Pinc, ond llwyddodd y Devils i gadw eu gafael ar eu mantais tan ddiwedd yr ail gyfnod.

Ond tarodd y Steelers yn ôl yn y cyfnod olaf gyda thair gôl i sicrhau’r fuddugoliaeth.

1-1 oedd hi wrth i Jason Hewitt ddarganfod y rhwyd wedi pum munud o’r cyfnod olaf, ac fe aeth y Saeson ar y blaen drwy gôl hwyr i Fredrik Vestberg.

Roedd llygedyn o obaith i’r Devils yn y munudau olaf a’r sgôr yn 2-1, ond cafodd mantais y Saeson ei hymestyn i 3-1 diolch i Ryan Hayes.

Sgoriodd y Devils yn yr eiliadau olaf diolch i ergyd gan Carl Hudson ond doedd dim digon o amser iddyn nhw unioni’r sgôr.