Dylan Ebenezer, cyflwynydd Sgorio (llun: S4C)
Byddai buddugoliaeth i Dîm yr Wythnos Golwg360 yn eu ffeinal ddydd Sadwrn yn un o’r canlyniadau mwyaf syfrdanol yn hanes pêl-droed Cymru.

Dyna farn y sylwebydd Dylan Ebenezer wrth i CPD Tref Dinbych o gynghrair yr Huws Gray Cymru Alliance baratoi i herio’r Seintiau Newydd, cewri’r Uwch Gynghrair, yn ffeinal Cwpan Word fory.

Mae tîm Craig Harrison yn anelu at ennill y trebl am yr ail dymor yn olynol eleni trwy ennill Cwpan Cymru, Uwch Gynghrair Dafabet Cymru a’r Cwpan Word, ar ôl llwyddo yn eu nod llynedd.

Ond fe fydd Dinbych yn gobeithio synnu’r tîm llawn amser yn Stadiwm MBi Llandudno, gyda’r gêm yn dechrau am 5.15yp yn fyw o flaen camerâu Sgorio.

Cyn y gêm fawr, by chwaraewr canol cae Dinbych Sam Jones yn rhannu’i farn â ni:

‘Tîm ar mission’

Yn ymuno â Dylan Ebenezer ar gyfer y gêm fydd cyn-chwaraewyr Cymru Owain Tudur Jones a Gwennan Harries, gyda Nic Parry a Malcolm Allen yn darparu’r sylwebaeth Gymraeg a Mark Jones a Tomi Morgan yn sylwebu’n Saesneg ar y botwm coch.

“Mae fe’n grêt cael clwb fel Dinbych yn y rownd derfynol. Maen nhw wedi trechu sawl tîm o Uwch Gynghrair Dafabet ac wedi dangos nad ffliwc yw eu llwyddiant,” meddai’r cyflwynydd.

“Ond maen nhw’n cwrdd â thîm sydd ar mission i gael y trebl unwaith eto, felly bydd hon yn her enfawr iddyn nhw.

“Mae’r Seintiau Newydd yn mwynhau ennill ac maen nhw’n dal i ddatblygu. Maen nhw wedi codi’r safon yn yr Uwch Gynghrair a dydyn nhw ddim yn aros yn llonydd.”

‘Mwy na Siapan v De Affrica’

Er gwaethaf y ffaith bod y Seintiau Newydd wedi colli eu gêm gynghrair ddiwethaf yn erbyn gap Cei Connah, byddai hi dal yn syndod o’r mwyaf petai Dinbych yn llwyddo i gael eu gafael ar y tlws yn ôl Dylan Ebenezer.

“Petaen nhw’n trechu’r Seintiau, byddai’n un o’r canlyniadau mwyaf syfrdanol yn hanes pêl-droed Cymru,” mynnodd y sylwebydd.

“Byddai fe’n sioc fwy na Wrecsam yn erbyn Arsenal, Wimbledon yn erbyn Lerpwl neu hyd yn oed Siapan yn erbyn De Affrica yn y rygbi, petai Dinbych yn ennill.

“Ond ‘dych chi byth yn gwybod, mae sioc wastad yn bosib a dyna pam ‘dyn ni’n caru pêl-droed.”