Jonathan Williams
Mae MK Dons wedi arwyddo chwaraewr canol cae Crystal Palace, Jonathan Williams, ar fenthyg am dri mis.

Fe allai’r chwaraewr 22 oed ymddangos am y tro cyntaf y penwythnos yma, wrth i’r Dons baratoi i herio Bolton Wanderers yn y Bencampwriaeth.

Mae’r Cymro yn awyddus i chwarae’n fwy rheolaidd dros y misoedd nesaf wrth iddo frwydro am le yng ngharfan Ewro 2016 Cymru, fydd yn cael ei ddewis ar ddiwedd y tymor.

Mae gan Joniesta, fel mae’n cael ei alw gan gefnogwyr Palace a Chymru, naw cap dros ei wlad ond mae wedi bod yn cael trafferthion gydag anafiadau dros y blynyddoedd diwethaf.

Dangos ei ddoniau

Fe dreuliodd Jonny Williams hanner cyntaf y tymor ar fenthyg yn Nottingham Forest, sydd hefyd yn y Bencampwriaeth.

Ond roedd rheolwr Crystal Palace, Alan Pardew, wedi’i gwneud hi’n glir nad oedd y chwaraewr yn mynd i gael llawer o gyfle yn yr Uwch Gynghrair rhwng nawr a gweddill y tymor.

Fe fydd Jonny Williams yn aros gyda’r clwb o Milton Keynes felly tan 23 Ebrill, ac yn ymuno â’r Cymry Simon Church a Joe Walsh sydd hefyd gyda’r clwb.

“Dw i’n chwaraewr sy’n hoff o fod ar y bêl, chwarae pêl-droed a mwynhau fy hun felly dyna un o’r prif resymau dw i yma,” meddai’r asgellwr chwim.

“Mae hwn yn blatfform i mi ddangos beth alla i wneud a gobeithio y galla i helpu’r tîm i aros fyny yn y gynghrair hefyd.”