Mae tîm pêl-droed Cymru wedi colli o 4-2 yn erbyn Armenia yng Nghaerdydd.

Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw golli gêm ragbrofol yn y brifddinas ers 2017.

Aeth y Cymry ar y blaen yn gynnar yn yr ornest ragobrofol ar gyfer Ewro 2024 pan groesodd Brennan Johnson y bêl i lwybr Daniel James.

Ond roedd yr ymwelwyr yn gyfartal o fewn dim o dro, wrth i’r capten Lucas Zelaryan daro foli i gefn y rhwyd.

Sgoriodd Grant-Leon Ranos ail gôl ei dîm i’w rhoi nhw ar y blaen am y tro cyntaf, a chafodd Cymru sawl cyfle i unioni’r sgôr cyn i Ranos ymestyn mantais Armenia.

Tarodd tîm Rob Page yn ôl drwy Harry Wilson i’w gwneud hi’n 3-2 gydag ugain munud yn weddill, ond daeth pedwaredd gôl Armenia drwy Zelarayan.

Aeth y sefyllfa o ddrwg i waeth o fewn munudau, wrth i obeithion Cymru bylu pan gafodd Kieffer Moore ei anfon o’r cae am ffrwgwd oddi ar y bêl gyda’r golwr Ognjen Chancharevich.

Gallai Cymru fod wedi dychwelyd i frig y grŵp gyda buddugoliaeth, ond bydd yn rhaid iddyn nhw roi’r canlyniad y tu ôl iddyn nhw cyn teithio i Dwrci nos Lun (Mehefin 19).