Bydd tîm criced Morgannwg yn gobeithio dial ar Essex yn Chelmsford heno (nos Wener, Mehefin 16), wrth iddyn nhw herio’i gilydd mewn gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast.
Roedd y Saeson yn fuddugol o 51 rhediad yn y gêm gyfatebol yng Nghaerdydd union wythnos yn ôl.
Daw’r gêm ugain pelawd ar ôl wythnos o gemau pêl goch yn y Bencampwriaeth.
Union hanner ffordd drwy’r gystadleuaeth, mae Morgannwg yn bumed yn y tabl, un safle islaw’r pedwar uchaf hollbwysig er mwyn cyrraedd rownd yr wyth olaf.
Mae Essex yn bedwerydd, a dim ond dau bwynt sy’n eu gwahanu nhw ar ddechrau ail hanner y gemau grŵp.
Gemau’r gorffennol
Ar ôl i’r gêm ddod i ben heb ganlyniad yn 2016, enillodd Morgannwg o bum wiced yn 2017 ac o ddwy wiced yn 2018.
Doedd dim canlyniad eto yn 2019, tra bod Essex wedi ennill o wyth wiced yn 2021 ac o 69 rhediad yn 2022.
Yn yr olaf o’r gemau hynny, sgoriodd yr Eryr 254 am bump, eu sgôr uchaf erioed yn erbym Morgannwg mewn gêm ugain pelawd, ar ôl i Dan Lawrence daro 71 cyn i Paul Walter daro hanner canred oddi ar 21 o belenni.
Serch hynny, sgoriodd Sam Northeast 97 heb fod allan wrth i Forgannwg frwydro’n ddewr am fuddugoliaeth.
Wrth gwrso 168 i ennill yn 2018, roedd Morgannwg yn 110 am wyth cyn i Chris Cooke a Timm van der Gugten ychwanegu 61 rhediad oddi ar 26 o belenni i ennill yr ornest.
Roedd digon o rediadau yn 2017 hefyd, wrth i Varun Chopra sgorio 103 heb fod allan wrth i Essex sgorio 219 am bedair, cyn i Colin Ingram daro 114 – dau rediad yn brin o record Ian Thomas am y sgôr gorau erioed i fatiwr Morgannwg mewn gêm ugain pelawd.
Carfan Essex: S Harmer (capten), B Allison, A Beard, W Buttleman, S Cook, M Critchley, R Das, F Khushi, A Nijjar, M Pepper, J Rymell, D Sams, S Snater, P Walter, T Westley
Carfan Morgannwg: C Taylor, K Carlson (capten), B Root, B Kellaway, A Gorvin, S Northeast, R Smith, Zain-ul-Hassan, P Sisodiya, P Hatzoglou, J McIlroy, C Ingram, C Cooke, T van der Gugten