Mae tîm criced Morgannwg wedi colli tair gêm ugain pelawd o’r bron, ar ôl iddyn nhw golli o bedair wiced yn erbyn Essex yn y Vitality Blast yn Chelmsford.

Tarodd Feroze Khushi 61 oddi ar 37 o belenni i’r tîm cartref, wrth iddyn nhw gwrso 175 i ennill.

Un o’r ychydig berfformwyr addawol o safbwynt Morgannwg oedd Jamie McIlroy, y bowliwr cyflym llaw chwith, gipiodd bedair wiced am 36.

Tarodd Paul Walter 43 i Essex, cyn i Matt Critchley a Daniel Sams arwain eu tîm i fuddugoliaeth.

Roedd 43 y capten Kiran Carlson oddi ar 25 o belenni yn ofer i’r sir Gymreig, wrth iddyn nhw golli wicedi’n rhy aml.

Cipiodd Walter dri daliad yn ystod y cyfnod clo i adael Morgannwg yn 55 am dair o fewn chwe phelawd, ac fe lithron nhw i 122 am bedair ar ôl 15 pelawd.

Ond roedd sgôr y sir Gymreig yn barchus yn y pen draw, diolch i Timm van der Gugten, oedd wedi taro dwy ergyd chwech mewn pelawd i sgorio 33 oddi ar 14 pelen i wella sgôr ei dîm o dipyn.

Methu amddiffyn

Doedd 175 byth am fod yn ddigon o sgôr ar gae bach, ond roedd Essex mewn rhywfaint o drafferth yn ystod y pelawdau agoriadol ar 35 am dair, gan gynnwys dwy wiced oddi ar ddwy belen i McIlroy.

Tarodd Khushi dair ergyd chwech yn ystod y tair pelawd agoriadol, ac roedd e eisoes yn 33 heb fod allan oddi ar unarddeg o belenni, gan gyrraedd ei hanner canred oddi ar 29 o belenni.

Adeiladodd Walter a Khushi bartneriaeth o 80 rhediad oddi ar 47 o belenni, ac mae Walter bellach wedi sgorio 58, 78 a 42 yn ei dri batiad blaenorol.

Ychydig dros rediad y belen oedd ei angen ar y Saeson erbyn hynny, a tharodd Daniel Sams 41 oddi ar 16 o belenni i gipio’r fuddugoliaeth gyda’i dîm yn sgorio 57 oddi ar 24 pelen i gau pen y mwdwl ar yr ornest.