Mae pencampwyr Gemau Stryd Cymru a’r byd wedi ymgynnull yng Nghaerdydd ar ddiwrnod cyntaf Gemau Stryd yr Urdd nos Wener (Mehefin 16).
Digwyddiad Adran Chwaraeon yr Urdd yw’r unig ddigwyddiad o’i fath yng Nghymru.
Yn ystod y penwythnos, mae cyfle i blant a phobol ifanc gystadlu ochr yn ochr â’r pencampwyr.
Mae’r Urdd wedi cyflwyno dwy gystadleuaeth newydd i’r digwyddiad eleni, sef Bowldro a Dawnsio Stryd, ac mae’r rhain yn ychwanegol i’r categorïau BMX, Sglefrfyrddio, Sgwtera, a ‘Breakin’ sy’n dychwelyd eto eleni.
‘Gwledd o gyfleoedd’
“Roedd ein Gemau Stryd cyntaf llynedd yn cynnig gwledd o gyfleoedd chwaraeon newydd i’n haelodau,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.
“Roedd hi’n gyffrous gweld unigolion o bell ac agos yn dod ynghyd i gystadlu a rhoi tro arni.
“Mae Gemau Stryd yn rhan o arlwy’r Gemau Olympaidd ac yn tyfu mewn poblogrwydd.
“I sicrhau Urdd i Bawb, rydym yn datblygu’n darpariaeth yn gyson er mwyn cynnig y cyfleoedd gorau posib i blant a phobol ifanc Cymru – ac mae’r gallu i ddatblygu crefft ochr yn ochr â sêr y sîn yn gyfle arbennig.”
Ysbrydoli mwy i roi cynnig ar chwaraeon
Yn ogystal â’r cyfle i gystadlu mewn categorïau plant a phobol ifanc, mae’r Gemau Stryd yn anelu i ysbrydoli mwy o blant a phobol ifanc i roi cynnig ar y campau yma am y tro cyntaf.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd Tîm Chwaraeon yr Urdd ac arbenigwyr yn cynnal sesiynau blasu sglefrfyrddio a Breakin am ddim mewn ysgolion yn ardal Caerdydd.
Yn ystod y penwythnos ei hun, mae cyfleoedd pellach i fwynhau sesiynau blasu am ddim ym mhob un o’r campau yng nghwmni’r arbenigwyr.
“Mae staff yr Adran Chwaraeon yn gweithio’n galed ar hyd a lled Cymru trwy’r flwyddyn yn cynnig pob math o ddarpariaeth chwaraeon yn eu Siroedd,” meddai Tom Birkhead, Rheolwr Digwyddiadau Chwaraeon yr Urdd.
“Mae’r Gemau Stryd yn gyfle i unrhyw un, beth bynnag fo’ch gallu i roi tro ar gamp newydd, a phwy a wŷr, efallai byddwn ni’n ysbrydoli pencampwyr y dyfodol.”
Llysgenhadon
Fel Mudiad sy’n rhoi plant a phobol ifanc Cymru wrth galon eu gwaith, mae llysgenhadon y gemau eleni yn cynnwys Noni a Lona Gordon, dwy chwaer ifanc o’r de.
Mae’r ddwy wedi bod yn sglefrfyrddio ers tair blynedd.
Mae Noni yn 13 ac yn rhan o dîm sglefrfyrddio Caerdydd.
Cipiodd hi’r drydedd wobr yn y categori dan 16 yn y Gemau Stryd llynedd.
“Dwi’n dwli ar y ffaith bod yr Urdd yn gwneud digwyddiad sy’n cefnogi sglefrfyrddio,” meddai Noni.
“Mae sglefrfyrddio yn ymwneud â chyflawni’r amhosibl a dwi’n gyffrous i rannu’r meddylfryd a sgiliau sglefrfyrddio ag eraill, ac i roi sglefrfyrddio ar y map.
“Dwi mor gyffrous!”
Mae Lona’n ddeg oed, ac mae hi newydd gipio’r bedwaredd wobr ym Mhencampwriaeth Sglefrfyrddio Prydain.
“Rydw i a fy chwaer yn edrych ymlaen at y Gemau Stryd, mae mwy o’n ffrindiau’n cystadlu eleni hefyd,” meddai.
“Dwi’n edrych ymlaen i ddangos beth allwn ni ei wneud ar ein sglefrfwrdd. Wnes i wir fwynhau bod yno llynedd.”
‘Dewch yn llu’
“Dewch yn llu i fwynhau’r cystadlu, i weld y Pencampwyr yn arddangos eu doniau ac i roi cynnig ar y campau amrywiol eleni,” meddai Siân Lewis.
“Mae’r sesiynau blasu am ddim ac mae croeso i bawb o bob oedran.”