Alan Curtis
Fe fydd rheolwr newydd Abertawe yn gallu troi’r perfformiadau da diweddar yn bwyntiau, yn ôl y dyn sydd yn camu o’r neilltu i wneud lle iddo.
Roedd Abertawe’n fuddugol o 1-0 yn erbyn Watford yng ngêm olaf Alan Curtis wrth y llyw cyn iddo ildio’r awenau i’r Eidalwr Francesco Guidolin.
Bydd Curtis yn parhau i fod yn rhan o staff hyfforddi Guidolin, wrth i’r Elyrch frwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair.
‘Hyfforddwr profiadol’
Cyfaddefodd y gŵr sydd wedi bod yn rheolwr dros dro ers i Garry Monk gael ei ddiswyddo ym mis Rhagfyr ei fod yn ddigon bodlon i weld rhywun arall yn cymryd y swydd os mai dyna oedd cadeirydd y clwb eisiau ei weld.
“Petawn ni wedi ennill mwy o gemau, wedyn o bosib ni fyddai wedi bod angen [dod a Guidolin i mewn],” meddai Curtis yn dilyn y fuddugoliaeth dros Watford.
“Dw i’n meddwl bod y perfformiadau wedi bod yn wych ond dydyn ni ddim wedi cael y canlyniadau rydyn ni wedi’i haeddu.
“Fe allen ni fod wedi bod â phedwar, pump, chwech, hyd yn oed saith pwynt yn fwy erbyn nawr. Ond wrth ddod â hyfforddwr profiadol i mewn fe allwn ni droi’r perfformiadau yna yn bwyntiau.”
Pasio gwybodaeth
Dywedodd Alan Curtis fod cadeirydd Abertawe Huw Jenkins wedi dweud wrtho ddydd Sul y byddai Guidolin yn cael ei benodi, ac fe fydd Gabriele Ambrosetti hefyd yn ymuno â’r tîm hyfforddi.
Mynnodd Curtis na fyddai penodi Guidolin ochr yn ochr ag e fel cyd-reolwyr wedi gweithio, a’i fod yn ddigon bodlon i gynorthwyo’r gŵr newydd pan fydd angen.
“Allwch chi ddim cael cyd-reolwyr – mae’n rhaid iddo fod yn un neu’r llall a dw i’n ddigon hapus i Francesco gael hynny,” meddai Curtis.
“Fe fydd gen i dipyn mwy o wybodaeth am y chwaraewyr yma na Francesco a dw i’n barod yma i basio’r wybodaeth yna ‘mlaen.”