Mae cwmni bwcis Paddy Power wedi troi at Gymru i wneud hwyl am ben tîm pêl-droed Chelsea.

Mewn hysbyseb, mae’r cwmni Gwyddelig yn defnyddio’r arwydd enwog i dynnu sylw at nifer y llythrennau ‘l’ (neu ‘ll’, wrth gwrs) sydd yn enw’r pentref.

Yn nhermau pêl-droed, mae ‘L’ yn sefyll am ‘losses’, hynny yw nifer y gemau sydd wedi’u colli.

Mae Chelsea wedi colli 16 o gemau yn ystod eu hymgyrch bresennol yn Uwch Gynghrair Lloegr, a chafodd ei jôc ei chreu ar ôl iddyn nhw golli eto yn erbyn Manchester United neithiwr (nos Iau, Mai 25).

Yn ôl Paddy Power, gallai colled rhif 17 ddod ddydd Sul yng ngêm ola’r tymor yn erbyn Newcastle – o ddilyn y wyddor Saesneg, dim ond 11 ‘L’ sydd yn enw’r pentref Cymreig byd-enwog.

“Mae pêl-droed yn ffynnu yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda sêr rhestr-A Hollywood yn taflu clybiau lleol tuag at lwyddiant mawr,” meddai llefarydd ar ran Paddy Power, wrth gyfeirio at Wrecsam a’u perchnogion Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

“O ystyried ei dadeni, roedden ni’n meddwl y gallai Chelsea elwa ar rywfaint o hud a lledrith Cymreig, a gyda phoblogaeth ychydig dros 3,000 efallai y bydd angen cefnogaeth pob un ohonyn nhw [ar Chelsea] ddydd Sul.”