Mae enw annisgwyl yng ngharfan griced Morgannwg ar gyfer gêm ugain pelawd gynta’r Vitality Blast heno (nos Wener, Mai 26).

Maen nhw wedi denu’r cyn-chwaraewr amryddawn Ruaidhri Smith yn ôl ar gytundeb tymor byr, ac mae’r Albanwr wedi’i gynnwys yn y garfan i herio Swydd Gaerloyw ym Mryste.

Daw hyn ar ôl iddo greu argraff wrth chwarae i ail dîm Morgannwg ac i dîm Sain Ffagan yn Uwch Gynghrair De Cymru.

Bydd Kiran Carlson yn parhau i arwain y tîm yn absenoldeb David Lloyd, sydd ag anaf i linyn y gâr, tra bod Colin Ingram wedi’i gynnwys yn dilyn ymadawiad Marnus Labuschagne, sydd wedi ymuno â charfan Awstralia.

Mae disgwyl i’r chwaraewr amryddawn ifanc Ben Kellaway o Gas-gwent chwarae ei gêm gyntaf i’r sir.

Hon hefyd fydd gêm gynta’r prif hyfforddwr newydd, Mark Alleyne, wrth y llyw ar ôl i Forgannwg benderfynu hollti’r swydd, gyda Matthew Maynard yn canolbwyntio ar y Bencampwriaeth.

Gemau’r gorffennol

Mae Swydd Gaerloyw eisoes wedi trechu Caint, o saith wiced, yn y gystadleuaeth hon, tra mai hon fydd gêm gyntaf Morgannwg.

Mae gan Forgannwg record dda mewn gemau ugain pelawd yn erbyn Swydd Gaerloyw dros y blynyddoedd diwethaf.

Daeth y gêm y tymor diwethaf i ben yn gynnar heb ganlyniad oherwydd y tywydd, ac roedd y Saeson yn fuddugol o 34 rhediad yn 2021, diolch i orchestion y chwaraewr tramor o Seland Newydd, Glenn Phillips.

Ond roedd Morgannwg yn ddi-guro mewn pedair gêm rhwng y ddwy sir rhwng 2015 a 2020.

Enillon nhw o 19 rhediad yn 2015, o chwe wiced yn 2016, o 25 rhediad yn 2017 ac o 15 rhediad yn 2020, gyda’r troellwyr Prem Sisodiya ac Andrew Salter yn serennu gyda’r bêl yn yr olaf ohonyn nhw, tra bod Chris Cooke wedi taro 51 heb fod allan.

Yn y gyntaf ohonyn nhw yn 2015, sgoriodd y ddau gapten, Jacques Rudolph a Michael Klinger, ganred yr un mewn gêm gyffrous.

Carfan Swydd Gaerloyw: J Taylor (capten), J Bracey, B Charlesworth, C Dent, Zafar Gohar, M Hammond, D Payne, J Phillips, O Price, G Roelofsen, J Shaw, T Smith, M Taylor, G van Buuren, P van Meekeren

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), B Root, B Kellaway, S Northeast, R Smith, H Podmore, M Neser, P Sisodiya, J McIlroy, C Ingram, C Cooke, T van der Gugten, D Douthwaite, E Byrom