Mae’r Cae Ras yn Wrecsam wedi cael ei ailenwi yn sgil cytundeb nawdd newydd.

Mae STōK Cold Brew Coffee, brand coffi Americanaidd poblogaidd, wedi dod i gytundeb i noddi’r clwb ac i gael rhoi eu henw ar y stadiwm.

Dyma’r tro cyntaf i noddwr gael rhoi eu henw ar y stadiwm, ac fe fydd y cytundeb newydd yn dod i rym ar Orffennaf 1.

Mae STōK wedi ymrwymo i ddathlu hanes y tîm a’r stadiwm, a bydd ‘Cae Ras’ a ‘Racecourse’ felly yn aros yn rhan o’r enw: STōK Cae Ras / STōK Racecourse.

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi mewn fideo gyda’r perchnogion Ryan Reynolds a Rob McElhenney, lle maen nhw’n cyfnewid te traddodiadol y chwaraewyr am goffi STōK ac yn aros i weld a yw’r chwaraewyr yn sylwi.

Yn ôl y perchnogion, roedden nhw eisiau denu noddwr i adlewyrchu “bywiogrwydd ac egni” y clwb.

Mae’r Bwrdd Ymgynghori, sy’n cynnwys cefnogwyr, wedi cymeradwyo’r cytundeb.

Er nad yw cynnyrch oer y cwmni ar werth yng Nghymru eto, maen nhw’n dweud iddyn nhw gael eu “swyno” gan hanes Wrecsam.

Bydd y cwmni coffi hefyd yn noddi taith y tîm i’r Unol Daleithiau.