Mae’r cyn-chwaraewr rygbi Mark Jones yn dweud ei fod yn teimlo’n “anrhydeddus a gostyngedig” ar ôl cyrraedd rhestr fer y Wobr Rygbi yng Ngwobrau Llyfrau Chwaraeon 2023, a’i fod e wedi cael “taith anhygoel o Gefn Golau i Wobrau Llyfrau’r Sunday Times“.

Aeth y wobr honno, a phrif wobr y noson ar gae criced yr Oval yn Llundain, i Steve Thompson, cyn-fachwr Lloegr am ei gyfrol Unforgettable: Rugby, Dementia and the Fight of My Life (Blink Publishing) yn adrodd hanes ei fywyd â dementia.

Ond fe fu Mark Jones, cyn-chwaraewr rheng ôl Cymru, Tredegar, Tredegar Ironsides, Castell-nedd, Glyn Ebwy, Pont-y-pŵl ac Aberafan, yn siarad â golwg360 cyn y noson am y gyfrol Fighting to Speak (St David’s Press) sy’n adrodd hanes ei frwydr ei hun ag atal dweud ac a gafodd ei gyd-ysgrifennu gan Anthony Bunko.

“Dw i wedi fy syfrdanu,” meddai.

“Dw i wedi dod yn bell iawn o Gefn Golau [yn Nhredegar] i Wobrau Llyfrau’r Sunday Times.

“Mae hi wedi bod yn daith anhygoel.”

Atal dweud

Mae’r llyfr yn egluro sut y bu i’r atal dweud hwnnw ffurfio’r cymeriad caled, ymosodol ar y cae ddaeth ag enwogrwydd iddo am yr holl resymau anghywir, ac yntau wedi gweld cerdyn coch chwe gwaith a chael gwaharddiadau ar adegau gwahanol oedd yn cyfateb i gyfanswm o 33 wythnos allan o’i yrfa.

Fe roddodd y gorau i chwarae rygbi yn 2003, felly pam aeth e ati i lunio’r gyfrol ugain mlynedd yn ddiweddarach?

“Dechreuodd y cyfan cyn Covid,” meddai.

“Dw i wedi nabod Anthony Bunko ers blynyddoedd, ers i fi fod yn fy arddegau, ac ro’n i’n gwybod ei fod e ynghlwm wrth ysgrifennu a’i fod e wedi cyhoeddi sawl llyfr, ac wedyn ges i’r cyfweliad gyda Simon Thomas yn y Western Mail.

“Fe wnaeth hynny dorri’r stori o ran sut roedd yr atal dweud wedi effeithio ar y ffordd wnes i chwarae a’i fod e wedi cael effaith enfawr ar fy mywyd.

“Doedd dim gemau ac roedden nhw’n chwilio am ffyrdd o lenwi tudalennau, ac wedyn ar gefn hynny fe wnaeth cyhoeddwr Anthony Bunko ei ffonio fe a dweud, ‘Rydyn ni’n gwybod dy fod di’n nabod Mark, mae’n dipyn o stori, wyt ti eisiau ysgrifennu ei lyfr?’

“Hyd at y pwynt lle des i ‘allan’ i’r wasg – nid dod ‘allan’ yw’r gair cywir efallai – mae hi fel pe bawn i eisiau cuddio’r ffaith fod gyda fi atal dweud am 50 mlynedd.

“Ro’n i wedi gwneud popeth i geisio’i guddio fe, i geisio peidio bod ag atal dweud ac i fod yn ‘normal’.

“Ro’n i wedi bod yn gweithio yn Dubai ers nifer o flynyddoedd, ac wedi cael digon o amser i fyfyrio drosof fi fy hun, ac roedd angen i fi fwrw fy mol.

“Ro’n i’n gwybod fod gyda fi enw drwg, ac ro’n i’n cael fy ngweld fel hyn, ond nid dyna’r fi go iawn.”

Rhyddhau’r rhwystredigaeth fewnol

Er bod Mark Jones oddi ar y cae yn dawel anghyfforddus yn ei groen ei hun, roedd Mark Jones ar y cae yn ddyn caled, ymosodol oedd wedi magu enw drwg iddo’i hun yn sgil hynny.

Cafodd ei wahardd am 28 diwrnod yn 1996 am ffrwgwd â Stuart Evans, prop Abertawe, ac fe fu’n rhaid iddo fethu dechrau tymor 1998-99 ar ôl taro Iwan Jones, blaenasgellwr Llanelli, yn ystod rownd derfynol Cwpan Cymru.

“Ar y pryd, pan o’n i’n chwarae, do’n i ddim yn gallu stopio ond wnes i ddim ceisio stopio chwaith, achos ro’n i’n mwynhau’r drwg-enwogrwydd,” meddai.

“Yn fy mhen fy hun, fi oedd ‘Stuttering, Lanky Jones’, do’n i’n ddim byd, ac roedd cael fy enw yn y papur newydd am unrhyw reswm yn dda.

“Roedd angen hynny arna i ar gyfer fy ego fy hun.”

Ond daeth y trobwynt yn dilyn un digwyddiad hynod o dreisgar pan ymosododd ar Ian Gough, chwaraewr ail reng Cymru.

Cafodd ei ollwng o’r garfan genedlaethol yn sgil y digwyddiad, ond fe gafodd e gefnogaeth y prif hyfforddwr Graham Henry a’r hyfforddwr Steve Black, a chwnsela am y tro cyntaf hefyd.

Daeth rhagor o gefnogaeth gan Bob Jude, cyfarwyddwr Glyn Ebwy, oedd wedi talu iddo dderbyn therapi lleferydd.

“Ro’n i wedi cael therapi lleferydd yn blentyn, ond roedd e’n hynafol a dweud y lleiaf.

“Wedyn, pan ddaeth y digwyddiad gydag Ian Gough a chafodd y mater ei grybwyll pan ges i sgwrs gyda Graham Henry a Steve Black, wnaethon nhw sôn amdano fe.

“Ond wedyn wnaeth Bob Jude dynnu fi i’r naill ochr a dweud, ‘Mark, beth wyt ti’n ei feddwl am gael therapi lleferydd?’ ac fe wnaeth e dalu o’i boced ei hun i fi gael therapi lleferydd.

“Roedd yn gynnig gwych, ac mae arna i ddyled fawr iddo fe oherwydd fe wnaeth e fy helpu i ar y pryd pan o’n i mewn lle gwael.

“Roedd fy lleferydd yn gwaethygu, ac roedd e’n effeithio ar fy ymddygiad.

“Ro’n i’n bwrw allan achos ro’n i mor rwystredig, ond fe wnaeth e fy helpu.

“Ond nid tan y darn yn y papur, ddeng mlynedd yn ddiweddarach, y ces i epiffani fy mod i’n foi gwahanol erbyn hynny nag yr oeddwn i rai blynyddoedd ynghynt.

“Wnaeth hynny godi peth o’r pwysau oddi arna i ond tan y darn y papur, yr erthygl, ro’n i’n dal i guddio.

“Ond pan ‘ddes i allan’, cododd yr holl bwysau oddi arna i ac roedd e’n deimlad anhygoel.”

‘Cywilydd’

Er ei fod yn cyfaddef nad yw’n difaru unrhyw beth, gan ei fod e wedi digwydd ac nad yw’n gallu newid y sefyllfa, mae’n dweud ei fod e’n teimlo cywilydd erbyn hyn.

“Dyna’r person o’n i bryd hynny ac roedd fy ymddygiad yn adlewyrchu’r person o’n i,” meddai.

“Ond nawr, wrth fyfyrio, o edrych yn ôl, dw i’n gweld fy mod i wedi gwneud pethau drwg na ddylwn i fod wedi’u gwneud, ond dyna oedd y gêm roedden ni’n ei chwarae.

“Dyna fy amgylchiadau i, ac o edrych yn ôl dw i’n credu fy mod i’n teimlo cywilydd oherwydd rhai o’r pethau wnes i.

“Dyna sut ro’n i’n rhyddhau’r cyfan, fy alter ego.

“Gartref, ro’n i’n casau fy hun, do’n i ddim yn hoffi bod yn ‘Lanky Jones’ oedd yn methu gofyn am beint o gwrw wrth y bar, bag o losin yn y siop, nwyddau siopa…

“Do’n i’n methu cael cyfweliadau am swyddi, ac ro’n i’n byw bywyd llawn cywilydd ac yn cuddio, ond fe wnaeth rygbi roi pwrpas newydd i fi.

“Do’n i ddim yr un â’r atal dweud ar y cae, ro’n i’n berson gwahanol.”

Eisiau “cuddio a marw”

“Mewn bywyd, rydyn ni i gyd yn derbyn llond llaw o gardiau, ond sut rydych chi’n defnyddio’r cardiau hynny yw’r gwahaniaeth rhwng llwyddo a methu,” meddai Mark Jones, sydd bellach yn byw gyda’i deulu yn Dubai, lle mae’n dechnegydd mewn labordy.

“Rydyn ni i gyd yn mynd i fod â phroblemau â rhywbeth neu’i gilydd, ond allwch chi ddim gadael i’r problemau hyn eich llethu chi.

“Y problemau hyn sy’n eich gwneud chi’n fwy gwydn.

“Mae’n hawdd plygu a chwarae’r dioddefwr, mae’n syml, ond dydy hynny ddim yn ddeniadol i fi.

“All neb arall gymryd y camau i’ch symud chi ymlaen, dim ond chi eich hun, ac mae angen i chi gydio yn y llyw.

“Mae adegau pan dw i wedi bod eisiau cropian y tu ôl i forden wal gyda’r pry cop a’r pry lludw a pheidio dod allan a pheidio mynd i unman, a chuddio a marw.

“Ond allwn i ddim.

“Allwch chi ddim gadael i bethau gael y gorau arnoch chi.

“Rydych chi’n derbyn un bywyd, ac mae’n rhaid i chi fyw’r bywyd hwnnw a gwneud y gorau ohono fe.

“Mae sgiliau gyda ni i gyd, neu rywbeth lle mai ni yw’r gorau yn ei wneud e, ac mae’n rhaid i ni ddod o hyd iddo fe ac annog ein hunain i dyfu a manteisio’n llawn arno fe, symud ymlaen, mwynhau eich bywyd a mynd amdani.”