Mae Casnewydd wedi cyhoeddi bod eu rheolwr John Sheridan wedi gadael y clwb er mwyn cymryd yr awenau yn Oldham.
Roedd Sheridan yn gyn-chwaraewr a chyn-reolwr gyda’r clwb o ogledd orllewin Lloegr, ac fe ddywedodd wrth wefan Oldham ei fod “wrth ei fodd” yn dychwelyd yno.
Dim ond ym mis Hydref 2015 y cafodd ei benodi fel rheolwr Casnewydd, yn dilyn ymadawiad Terry Butcher.
Ers hynny mae wedi arwain y tîm allan o safleoedd y cwymp yng Nghynghrair Dau, ac maen nhw ar hyn o bryd yn ugeinfed yn y tabl.