Mae Neil Taylor, cefnwr chwith Cymru, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o chwarae pêl-droed yn 33 oed.
Enillodd e 43 o gapiau dros Gymru, gan chwarae i glybiau Wrecsam, Abertawe, Aston Villa a Middlesbrough yn ystod ei yrfa, oedd wedi para 15 mlynedd.
Roedd e’n aelod blaenllaw o garfan Cymru yn Ewro 2016, gan chwarae ym mhob gêm wrth i’r tîm cenedlaethol gyrraedd rownd gyn-derfynol y gystadleuaeth.
Yn enedigol o Lanelwy, fe ddechreuodd ei yrfa gyda Wrecsam yn yr Ail Adran yn 2007, ar ôl bod yn aelod o dîm ieuenctid Manchester City yn blentyn.
Ar ôl iddyn nhw ostwng o’r Gynghrair Bêl-droed, symudodd i Abertawe yn y Bencampwriaeth yn 2010, gan ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr yn 2011, gan chwarae 179 o weithiau i’r Elyrch.
Chwaraeodd e dros 100 o weithiau i Aston Villa ar ôl symud yno pan gwympodd yr Elyrch i’r Bencampwriaeth, ac fe enillodd e ddyrchafiad unwaith eto yn 2019 cyn ymuno â Middlesbrough yn 2021 ar ôl cael ei ryddhau.
Cafodd ei ryddhau gan Middlesbrough yn yr haf, ar ôl chwarae am y tro olaf ym mis Ebrill.
Roedd e’n aelod o’r tîm GB dadleuol yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012.
Daeth ei unig gôl ryngwladol yn erbyn Rwsia yn Ewro 2016.
Mewn datganiad, dywedodd ei fod e wedi cael popeth posib allan o’i yrfa, oedd yn llawn “gwaith caled, dyfalbarhad ac aberth”.
“Dw i wedi mwynhau fy ngyrfa’n fawr iawn, o chwarae yn y Gynghrair Genedlaethol yr holl ffordd i’r Uwch Gynghrair ac i’r uchelfannau gyda fy Nghymru annwyl,” meddai.