Southport 3–2 Wrecsam    
                                                              

Colli fu hanes Wrecsam wrth iddynt ymweld â Haig Avenue i wynebu Southport yn y Gynghrair Genedlaethol brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Louis Almond ddwy waith wrth i’r tîm cartref ennill o dair i ddwy.

Rhoddodd Wes York yr ymwelwyr o ogledd Cymru ar y blaen cyn i Almond union pethau i Southport cyn yr egwyl.

Peniodd Luke Foster y tîm cartref ar y blaen am y tro cyntaf yn gynnar yn yr ail gyfnod ond roedd y Dreigiau’n gyfartal ugain munud o’r diwedd diolch i James Gray.

Yna, ildiodd Jamal Fyfield gic o’r smotyn bum munud o ddiwedd y naw deg ac enillodd Almond y gêm i’r tîm cartref wrth rwydo o ddeudde llath.

Mae Wrecsam yn unfed ar ddeg yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol wedi’r canlyniad.

.

Southport

Tîm: Crocombe, Jones, Blakeman, Thompson, Foster, Wright, Phenix, Rutherford, Allen, Jones (Nolan 23′), Almond

Goliau: Almond 41’, 85’, Foster 51’

Cerdyn Melyn: Phenix 90’

.

Wrecsam

Tîm: Taylor, White, Newton , York, Hudson (Vose 70′), Smith, Fyfield, Moke (Jackson 50′), Carrington (Gray 70′), Evans, Jennings

Goliau: York 18’, Gray 71’

Cardiau Melyn: Jennings 77’

.

Torf: 2,148