Caerdydd 1–0 Blackburn           
                                                       

Sgoriodd Joe Mason unig gôl y gêm wrth i Gaerdydd guro Blackburn Rovers yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.

Prin oedd y cyfleoedd yn y ddau ben mewn hanner cyntaf digon di fflach. Anthony Pilkington a ddaeth agosaf i Gaerdydd a Jordan Rhodes i Blackburn ond llwyddodd Jason Steele a David Marshall i arbed yn gyfforddus.

Aeth yr Adar Gleision ar y blaen toc cyn yr awr, cafodd ergyd Craig Noone o ochr y cwrt cosbi ei hatal ond disgynnodd y bêl yn garedig i Mason a rhwydodd yntau.

Cafodd Tony Watt gyfleoedd i ddyblu mantais y tîm cartref ond roedd un gôl yn ddigon i’r Adar Gleision yn y diwedd.

Mae’r canlyniad yn eu codi un lle i’r nawfed safle yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Peltier (Fabio 77′), Ecuele Manga, Connolly, Malone, Noone, Ralls, Gunnarsson, Pilkington, Mason (O’Keefe 80′), Watt (Ameobi 87′)

Gôl: Mason 58’

Cerdyn Melyn: Ralls 62’

.

Blackburn

Tîm: Steele, Marshall, Duffy, Hanley, Olsson, Lawrence, Williamson (Lenihan 70′), Akpan, Conway, Koita (Delfouneso 59′), Rhodes

Cardiau Melyn: Akpan 39’, Duffy 67’

.

Torf: 14,385