Man U 2–1 Abertawe     
                                                                   

Colli oedd hanes Abertawe wrth iddynt deithio i Old Trafford i herio Man U yn yr Uwch Gynghrair brynhawn Sadwrn.

Cipiodd Rooney y fuddugoliaeth i’r tîm cartref yn fuan wedi i Sigurdsson unioni i Abertawe yn dilyn gôl agoriadol Martial.

Prin oedd y cyfleoedd mewn hanner cyntaf diflas. Wayne Routledge a ddaeth agosaf i Abertawe ond llwyddodd David de Gea i arbed ei foli’n gyfforddus.

Roedd hi’n well gêm wedi’r egwyl a sgoriodd Man U yn gynnar pan beniodd Anthony Martial groesiad Ashley Young heibio i Likasz Fabianski yn y gôl.

Roedd yr ymwelwyr o dde Cymru yn gyfartal ugain munud o’r diwedd diolch i beniad gwych Gylfi Sigurdsson o groesiad Modou Barrow.

Saith munud yn unig yr arhosodd hi felly serch hynny cyn i Wayne Rooney adfer mantais y tîm cartref gyda sodliad deheuig o groesiad Martial.

Roedd angen arbediad da gan de Gea i atal Ashley Williams rhag unioni’r sgôr yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm a chafodd y gôl-geidwad, Fabianski, gyfle o gic gornel hwyr hefyd ar ôl mentro i gwrt cosbi Man U.

Mae Abertawe yn aros yn ail ar bymtheg yn y tabl er gwaethaf y canlyniad gan i Newcastle golli hefyd, yn Arsenal.

.

Man U

Tîm: de Gea, Young (McNair 78′), Jones (Darmian 45′), Smalling, Blind, Schneiderlin, Schweinsteiger, Mata, Herrera (Carrick 91′), Martial, Rooney

Goliau: Martial 47’, Rooney 77’

Cardiau Melyn: Smalling 42’, Blind 85’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Rangel, Fernandez, Williams, Taylor, Cork, Britton (Barrow 62′), Ki Sung-yueng, Routledge (Montero 82′), Ayew (Gomis 82′), Sigurdsson

Gôl: Sigurdsson 70’

Cerdyn Melyn: Rangel 64’

.

Torf: 75,451