Bangor 0–3 Llandudno      
                                                                

Cafodd Llandudno fuddugoliaeth haeddiannol wrth iddynt ymweld â Nantporth i herio Bangor yn Uwch Gynghrair Cymru brynhawn Gwener.

Sgoriodd yr ymwelwyr ddwy waith yn y saith munud agoriadol cyn ychwanegu’r drydedd bum munud cyn yr egwyl mewn perfformiad da.

Roedd amddiffyn Bangor ar chwâl yn y munudau agoriadol ac roedd Llandudno ar y blaen wedi dim ond pum munud, Marc Williams yn rhwydo wedi gwaith creu Alan Bull.

Dyblwyd y fantais ychydig dros funud yn ddiweddarach. Methodd Bangor ag ymdopi â chic gornel a waldiodd Danny Hughes y bêl i gefn y rhwyd o chwe llath.

Parhau i reoli a wnaeth yr ymwelwyr wedi hynny, ond heb ychwanegu at y sgôr tan bum munud cyn yr egwyl. Bull a gafodd y drydedd, yn gorffen yn daclus wedi i bas hir o’r cefn hollti’r amddiffyn.

Daeth Bangor yn agos wedi hynny pan ergydiodd Sam Hart yn erbyn y trawst ond ar wahân i hynny siomedig iawn oedd y Dinasyddion yn yr hanner cyntaf.

Roeddynt fymryn yn well wedi’r egwyl ond dechreuodd Llandudno reoli’n raddol wrth i’r hanner fynd ymlaen.

Doedd dim llawer o gyfleoedd o flaen gôl serch hynny, Marc Williams a daeth agosaf ar ddau achlysur ond bu rhaid i’r ymwelwyr fodloni ar dair gôl yn y diwedd.

Mae’r tri phwynt yn eu cadw yn ail yn nhabl yr Uwch gynghrair ond mae gobeithion Bangor o gyrraedd yr hanner uchaf cyn y toriad ar ben, maent yn aros yn nawfed.

.

Bangor

Tîm: Roberts, Walker, Hart, Cummings, R. Edwards, Miley, Langos (Cavanagh 66’), Allen, Ahmadi (Jones 46’), Young, S. Edwards

Cerdyn Melyn: Cummings 80’

.

Llandudno

Tîm: Roberts, Taylor, Joyce (Tierney 66’), Mike Williams, Hughes, Dix, Bull (Buckley 80’), Marc Williams, Dawson (Thomas 60’), Johnston

Goliau: Marc Williams 5’, Hughes 6’, Bull 40’

Cardiau Melyn: Thomas 79’, Buckley 84’

.

Torf: 710