Rheolwr Caerdydd, Russell Slade (Jon Candy CCA 2.0)
MK Dons 2 – 1 Caerdydd
Roedd torcalon i Gaerdydd yn y Bencampwriaeth wrth i gôl yn yr amser am anafiadau gipio buddugoliaeth hwyr i MK Dons.
Di-sgôr oedd yr hanner cyntaf, ond roedd Caerdydd ar ei hôl hi’n fuan yn yr ail wrth i Nicky Maynard sgorio’r erbyn ei hen glwb wedi 49 munud.
Roedd Caerdydd yn meddwl eu bod nhw wedi achub pwynt gyda 9 munud o’r 90 yn weddill wrth i Craig Noone ddod a’r sgôr yn gyfartal.
Ond, a hithau’n nhymor y panto roedd drama’n hwyr yn y dydd wrth i Josh Murphy rwydo yn yr amser ychwanegol, gan godi ei dîm i’r ugenfed safle yn y gynghrair.
Er y golled, mae Caerdydd yn codi i’r wythfed safle diolch i fuddugoliaeth Sheffield Wednesday dros Birmingham – y sgôr o 3-0 yn golygu bod gwahaniaeth goliau Caerdydd yn well nag un Birmingham.