Ki Sung-Yueng (llun: David Davies/PA)
Abertawe 1 – 0 West Bromwich Albion
Cipiodd Abertawe eu buddugoliaeth gyntaf ers i’r clwb ddiswyddo Garry Monk fel rheolwr yn Uwch Gynghrair Lloegr ar Ŵyl San Steffan.
Ki Sung-Yueng oedd arwr Stadiwm y Liberty gyda gôl gynnar wedi dim ond 9 munud wedi i ymdrech Rangel daro’r postyn.
Gôl gyntaf y tymor i Ki, a bydd cefnogwyr Abertawe’n falch ei fod wedi canfod ei ’sgidiau sgorio unwaith eto wrth weld bod hynny’n ddigon i gipio’r tri phwynt heddiw.
Doedd hi ddim y gêm orau wedi hynny, ond amddiffynodd y tîm cartref yn gadarn i gadw llechen lân ac roedd y rhyddhad yn glir ar wyneb y rheolwr dros dro, Alan Curtis, a’i dîm wrth iddyn nhw ddathlu ar y chwiban olaf.
Mae’r canlyniad yn codi Abertawe allan o’r tri isaf, ac i’r unfed safle ar bymtheg wedi i Norwich golli 3-0 yn erbyn Spurs.