Eli Walker
Scarlets 26 – 27 Y Gweilch

Y Gweilch gipiodd y fuddugoliaeth mewn gêm ddarbi Gŵyl San Steffan dynn ar Barc y Scarlets.

Y tîm cartref ddechreuodd y gêm orau gan roi tipyn o bwysau ar yr ymwelwyr, ac fe drodd y pwysau’n bwyntiau wrth i’r blaenasgellwr John Barclay groesi am gais yn y gornel wedi 10 munud.

Ciciodd Aled Thomas y trosiad, ond o fewn dwy funud roedd Dan Biggar wedi dod dod a’i dîm yn ôl o fewn 4 pwynt gyda chic gosb.

Cyfnewidiodd y ddau faswr gic gosb yr un, cyn i Aled Thomas ychwanegu tri phwynt arall wedi 23 munud i wneud y sgôr yn 13-6 i’r Scarlets.

Collodd y Scarlets y blaenasgellwr dylanwadol, Barclay, i anaf yn fuan wedyn ac efallai i hynny effeithio rhywfaint ar drefn y pac wrth i’r Gweilch bwyso yn y gornel.

Manteisiwyd ar y pwysau wedi 27 munud wrth i’r asgellwr Hanno Dirksen dorri trwy dacl i orfodi ei hun dros y llinell am gais – y sgôr yn gyfartal 13-13 wedi hanner awr felly.

Bum munud yn ddiweddarach roedd y Scarlets yn ymosod eto, ac ar ôl gwaith gwych gan yr eilydd Jack Condy llwyddodd Aled Davies i gyrraedd y llinell i roi ei dîm ar y blaen gyda phum munud tan yr hanner.

Byddai 20-13 wedi bod yn fantais dda, a haeddiannol, i’r tîm cartref ar yr hanner, ond daeth diffyg disgyblaeth i’w cosbi wrth i’r ail reng penboeth Jake Ball gael ei yrru i’r cell callio am daclo Dan Biggar heb y bêl.

Gyda munudau’n unig tan yr hanner roedd Y Gweilch yn gobeithio defnyddio’r dyn o fantais i gipio pwyntiau cyn yr hanner, a daeth y pwyntiau ar ffurf cais i’r capten cydnerth Alun Wyn Jones.

Trosodd Biggar i’w gwneud yn gyfartal 20-20 ar yr hanner.

Ail hanner

Er eu bod nhw un dyn yn brin, y Scarlets ddechreuodd yr ail hanner orau, a chipio’r pwyntiau cyntaf o’r hanner diolch i droed Aled Thomas, a llwyddodd y maswr eto wedi 50 munud gan ymestyn y sgôr i 6 pwynt o fantais.

Roedd hi’n poethi yn yr ail hanner, a thaclo mawr gan y ddau dîm. Cythruddwyd torf y tîm cartref gan un dacl gan ganolwr Y Gweilch Matavesi wrth iddo daflu ei ddyn, tîn dros ben, i’r llawr…ond roedd y dyfarnwr, Nigel Owens, yn amlwg yn teimlo ei fod wedi dosbarthu digon o gardiau am un Nadolig.

Yna, wedi 57 munud daeth moment dyngedfennol y prynhawn wrth i brop yr ymwelwyr, Dmitri Arhip, ganfod ei hun yn y tir agored ar yr asgell gyda hanner y cae’n glir o’i flaen.

Cododd y prop ei bengliniau gan deimlo gwynt Jake Ball a Ken Owens ar ei war – yn ffodus i Arhip roedd ganddo gefnogaeth un o chwaraewyr cyflymaf Cymru, ac wrth i Ball ei daclo pasiodd y prop i Eli Walker ar ei ysgwydd a doedd neb yn mynd i ddal y gwibiwr.

Llwyddodd Biggar gyda’r trosiad i wneud y sgôr yn 26-27 – pwynt o fantais i’r ymwelwyr gydag ugain munud yn weddill felly.

Er gwaethaf ymdrechion gorau’r tîm cartref a sawl ymosodiad cyffrous nodweddiadol, doedd dim ildio ar wal amddiffynol Y Gweilch.

Daeth un cyfle olaf i Steve Shingler gyda chic gosb o rhyw 25 llath yn eiliadau olaf y gêm, ond tynodd ei gic i’r chwith o’r postyn gan olygu mai cefnogwyr Y Gweilch sy’n cael cyfle i frolio yn nhafardai’r Gorllewin heno.