Bydd tîm pêl-droed merched Cymru’n wynebu Seland Newydd mewn gêm gyfeillgar nos Fawrth, Mehefin 28 (y gic gyntaf am 6 o’r gloch).

Bydd yr ornest yn cael ei chynnal yn Pinatar yn Sbaen.

Y tro diwethaf i’r ddau dîm herio’i gilydd, Cymru oedd yn fuddugol o 1-0 diolch i gôl Kayleigh Green yn Stadiwm Lecwydd yng Nghaerdydd.

Mae Cymru eisoes wedi chwarae yn Pinatar eleni, ar ôl iddyn nhw gystadlu yng Nghwpan Pinatar ym mis Chwefror.

Mae Seland Newydd yn 22ain ar restr ddetholion FIFA, ac maen nhw’n edrych ymlaen at gyd-gynnal Cwpan y Byd y Merched gydag Awstralia y flwyddyn nesaf.

Mae tîm Gemma Grainger yn ail yn eu grŵp rhagbrofol ar hyn o bryd, gyda dwy gêm allweddol i ddod yn erbyn Groeg a Slofenia wrth iddyn nhw geisio cyrraedd y gemau ail gyfle.

“Mae hwn yn gyfle da i ni baratoi ar gyfer ein gemau grŵp rhagbrofol olaf ym mis Medi,” meddai’r rheolwr.

“Dyma’r cam nesaf i ni ddatblygu’r tîm.

“Mae Seland Newydd un safle’n uwch na Chymru yn ôl detholion FIFA, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at osod her i ni ein hunain yn erbyn tîm cryf unwaith eto.”