Pep Clotet yw un o'r rheiny sydd wedi cael ei ddiswyddo
Mae Abertawe wedi cadarnhau heddiw bod is-reolwr y tîm Pep Clotet a’r hyfforddwyr James Beattie a Kris O’Leary hefyd wedi cael eu rhyddhau o’u dyletswyddau.

Daw’r cyhoeddiad lai na diwrnod ar ôl i’r rheolwr Garry Monk gael y sac yn dilyn rhediad gwael o ganlyniadau sydd wedi dod a dim ond un fuddugoliaeth mewn 11 gêm i’r tîm.

Mae’r chwilio eisioes wedi dechrau am olynydd, ac fe fyddai gan yr unigolyn hwnnw ryddid nawr i benodi staff cynorthwyol o’u dewis nhw.

Fodd bynnag, mae’r hyfforddwr Alan Curtis yn parhau gyda’r clwb a fe sydd yn debygol o fod wrth y llyw dros dro pan fydd yr Elyrch yn herio Man City ddydd Sadwrn.

Dynion Monk

Cafodd Pep Clotet ei benodi fel Ymgynghorydd Academi gan Abertawe yn 2013 cyn cymryd rôl gyda’r tîm cyntaf yn dilyn penodiad Monk ychydig fisoedd yn ddiweddarach.

Roedd Kristian O’Leary eisoes yn gweithio fel hyfforddwr gyda’r clwb, gyda chyfrifoldeb dros chwaraewyr ieuenctid, cyn i Monk ei ddyrchafu i’r tîm cyntaf, ac roedd y ddau wedi chwarae gyda’i gilydd i Abertawe yn gynharach yn eu gyrfa.

Dim ond yn yr haf eleni y cafodd James Beattie ei benodi fel hyfforddwr ymosodol y tîm, ond roedd yntau hefyd wedi chwarae gyda Monk yng ngyfnod cynnar gyrfaoedd y ddau gyda Southampton.

Dywedodd Abertawe mewn datganiad eu bod yn dymuno’n dda i’r tri aelod o staff oedd yn gadael.