Ryan Shawcross
Mae’n gwestiwn sydd yn codi gwrychyn ambell gefnogwr, ond yn un sydd wedi codi’i ben yn y cyfryngau eto’r wythnos yma – ydi Ryan Shawcross yn haeddu cyfle i chwarae dros Gymru?

Ers blynyddoedd bellach mae’r amddiffynnwr wedi bod yn chwarae ei bêl-droed yn yr Uwch Gynghrair gyda Stoke, ac yn gapten ar ei glwb.

Cafodd ei fagu yn Shotton ger y ffin, gan olygu ei fod yn gymwys i chwarae dros Gymru.

Ond penderfynodd Shawcross ei fod am gynrychioli Lloegr gan mai yno cafodd ei eni, ac fe enillodd ei unig gap drostyn nhw yn 2012.

Gydag Ewro 2016 dim ond chwe mis i ffwrdd fodd bynnag, mae colofnydd yn y Daily Mail wedi awgrymu y dylai rheolwr Cymru Chris Coleman geisio unwaith eto i’w berswadio i wisgo’r crys coch, a bod Shawcross yn haeddu chwarae mewn twrnament rhyngwladol.

Diffyg diddordeb?

Fe allai Shawcross, sydd bellach yn 28 oed, dal newid i chwarae dros Gymru gan mai dim ond mewn gêm gyfeillgar y cynrychiolodd Lloegr.

Ond fe wrthododd Cymru yn y gorffennol pan geision nhw ei berswadio i chwarae dros y wlad ble treuliodd ei blentyndod, a dydi o heb awgrymu eto fod ei safbwynt wedi newid.

Ychydig flynyddoedd yn ôl roedd gan Gymru ddiffyg dyfnder difrifol yn safle’r amddiffynnwr canol, ac er bod y garfan bellach yn un cryfach mae’n bosib iawn y byddai Shawcross yn ddigon da o hyd i ganfod lle yn y tîm.

Mae Coleman yn un sydd yn tueddu i aros yn driw i’w chwaraewyr, ond wedi dweud hynny llynedd fe berswadiodd James Chester i benderfynu cynrychioli Cymru ac ers hynny mae’r amddiffynnwr wedi ennill wyth cap.

Anaf Ramsey

Yr eliffant mawr yn yr ystafell fodd bynnag yw Aaron Ramsey – fe dorrodd Shawcross goes seren Cymru gyda thacl wael bum mlynedd yn ôl ac fe gymrodd hi sbel i’r chwaraewr canol cae wella o’r anaf.

Byddai hi bron yn amhosib felly dychmygu Shawcross yn cael y cynnig i chwarae dros Gymru oni bai bod Ramsey’n fodlon â hynny.

Dwy flynedd yn ôl fe ddywedodd chwaraewr Arsenal nad oedd ganddo broblem ysgwyd dwylo â Shawcross yn dilyn y digwyddiad, ond nad oedden nhw’n “fêts”.

Mae ymddangos fel bod sawl rhwystr y byddai’n rhaid ei groesi felly cyn i Shawcross allu gwisgo crys Cymru, a hynny’n cynnwys ymateb y cefnogwyr – ydych chi’n meddwl ei fod yn haeddu cyfle?