Garry Monk
Mae dyfodol Garry Monk yn Abertawe yn edrych yn ansicr iawn o hyd yn dilyn cyfarfod brys nos Lun â chyfarwyddwyr y clwb.
Dim ond un o’u 11 gêm ddiwethaf y mae’r tîm wedi ennill yn yr Uwch Gynghrair, a hynny ar ôl iddyn nhw ddechrau’r tymor yn dda.
Mae hynny wedi cynyddu’r pwysau ar y rheolwr 36 oed, yn enwedig ar ôl i’r Elyrch golli o 3-0 gartref yn erbyn Caerlŷr dydd Sadwrn.
Ac mae sôn bod Abertawe eisoes wedi dechrau chwilio am olynydd posib os ydi Monk yn cael ei ddiswyddo fel y disgwyl.
Dim mwy o fetiau
Mae sawl cwmni betio wedi gwrthod cymryd rhagor o fetiau mai Monk fydd y rheolwr nesa o’r Uwch Gynghrair i adael ei swydd, ac mae’r rheiny sydd dal yn gwneud wedi ei osod yn ffefryn clir.
Yn gynharach eleni fe orffennodd Abertawe dymor 2014/15 yn uwch yn yr Uwch Gynghrair a chyda mwy o bwyntiau nag erioed yn hanes y clwb.
Ond mae pethau wedi troi yn ystod yr hydref, gyda chanlyniadau’n mynd o chwith a pherfformiadau sawl chwaraewr, gan gynnwys yr ymosodwr Bafetimbi Gomis, yn dirywio.
Mae cyn-reolwr yr Elyrch Brendan Rodgers, yn ogystal â David Moyes a Mark Warburton, eisoes wedi cael eu crybwyll fel olynwyr posib i Garry Monk.