Dan Biggar yn casglu'i wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2015
Mae Dan Biggar wedi profi ei fod bellach ymysg y maswyr gorau yn y byd a “ddim yn bell tu ôl i Dan Carter”, yn ôl y dyfarnwr Nigel Owens.
Cafodd Biggar ei wobrwyo â thlws Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru mewn seremoni wobrwyo nos Lun, gan drechu’r seiclwr Geraint Thomas a’r bocsiwr Lee Selby i’r ail a’r trydydd safle.
Nigel Owens gyflwynodd y wobr honno i’r chwaraewr rygbi a serennodd yng Nghwpan y Byd, ac fe gafodd y dyfarnwr hefyd wobr Cydnabyddiaeth Arbennig am ei flwyddyn arbennig yntau.
Bu’r dyfarnwr yn sgwrsio â Golwg360 yn dilyn y gwobrau:
‘Cwbl haeddiannol’
Fe gyfaddefodd Nigel Owens ei fod wedi cael sioc wrth dderbyn ei wobr ar y llwyfan, gan ei fod yn meddwl mai yno i gyflwyno un Biggar yn unig oedd e.
Ond roedd e’n bendant ei farn bod maswr Cymru a’r Gweilch wedi haeddu’r brif wobr.
“Roedd Dan Biggar yn gwbl haeddiannol heno o ennill y wobr, chwarae teg iddo, mae wedi chwarae’n dda ers rhyw flwyddyn a hanner nawr,” meddai Nigel Owens.
“Yn ystod y tymor diwethaf mae e wedi bod gyda’r maswyr gorau yn y byd, ddim yn bell tu ôl i Dan Carter dw i ddim yn credu.”