Steve Morison yn chwarae dros Gymru
Mae Steve Morison wedi cyfaddef nad oedd hyd yn oed wedi clywed am un o chwaraewyr ifanc Cymru gafodd ei ddewis o’i flaen o yng ngharfan ddiwethaf y tîm rhyngwladol.

Dywedodd ymosodwr Millwall ei fod wedi cael ei enwi wrth gefn gan Gymru ar gyfer pob un carfan yn ystod eu hymgyrch ragbrofol lwyddiannus i gyrraedd Ewro 2016.

Ond fe gyfaddefodd y chwaraewr 32 oed, sydd bellach yn chwarae yng Nghynghrair Un, nad yw’n disgwyl cael galwad pan fydd y tîm yn teithio i Ffrainc y flwyddyn nesaf.

‘Bell ohoni’

Fe enillodd Morison 20 cap dros Gymru rhwng 2010 a 2012, gan sgorio un gôl, ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod ganddo nain yn dod o Dredegar ac felly’i fod yn gymwys i wisgo’r crys coch.

Ond ers i Chris Coleman ddod yn rheolwr ar Gymru prin y mae Morison wedi cael ei ddewis, hyd yn oed ar gyfer y gêm gyfeillgar ddiweddar yn erbyn yr Iseldiroedd pan oedd sawl ymosodwr wedi anafu.

Ac yn ôl Morison, mae hynny’n awgrymu iddo nad yw Cymru ei angen bellach.

“Rydych chi wastad eisiau aros yn bositif,” meddai’r ymosodwr wrth orsaf radio’i glwb Lions Live.

“Ond yn bersonol dw i’n meddwl mod i’n bell ohoni. Dw i wedi bod ar y rhestr wrth gefn ar gyfer pob un garfan felly dw i wastad yn cael fy enwi yn y garfan gychwynnol ond wedyn ddim yn cyrraedd yr un terfynol.”

George pwy?

Fe gyfaddefodd Steve Morison nad oedd hyd yn oed yn gwybod pwy oedd rhai o’r chwaraewyr ifanc oedd wedi cael eu dewis gan Gymru ar gyfer eu gêm ddiwethaf.

Roedd Sam Vokes yn un o’r rheiny oedd wedi anafu’n ddiweddar, ond yn lle galw Morison i’r garfan fe aeth Chris Coleman am yr asgellwr 20 oed George Williams o Fulham.

“Ar gyfer y gêm ddiwethaf yn erbyn yr Iseldiroedd roedd Sam Vokes wedi tynnu allan felly nes i feddwl ‘Mae gen i hanner siawns yn fan hyn’,” meddai Morison.

“Ond fe ddewison nhw hogyn a, gyda phob parch, doeddwn i erioed wedi clywed amdano o’r blaen. Felly i mi, mae hynny’n arwydd o ba ffordd mae’r gwynt yn chwythu.

“Dw i wedi bwcio fy ngwyliau i [flwyddyn nesaf] yn barod, fe rown ni hi felly.”