Rambo'n rhwydo yn erbyn Sunderland (llun: Adam Davy/PA)
Sgoriodd Gareth Bale ei bedwaredd gôl mewn naw gêm gynghrair dros Real Madrid y tymor yma wrth iddyn nhw drechu Getafe yn gyfforddus o 4-1 yn La Liga.

Cafodd goliau Real i gyd eu sgorio yn yr hanner cyntaf, gyda Bale yn creu un o ddwy gôl Benzema cyn ychwanegu’r drydedd ei hun.

Roedd hi’n ddiweddglo boddhaol ar ôl wythnos drafferthus i Los Blancos, wedi i’r clwb gael eu diarddel o’r Copa del Rey am chwarae chwaraewr oedd ddim yn gymwys.

Roedd hi hefyd yn benwythnos i’w chofio i Aaron Ramsey, a redodd y sioe wrth i Arsenal godi i’r ail safle yn yr Uwch Gynghrair gyda buddugoliaeth o 3-1 yn erbyn Sunderland.

Rhwydodd y Cymro drydedd gôl ei dîm yn y munud olaf ar ôl creu’r ail i Olivier Giroud, ac roedd yn fywiog drwy gydol y gêm gan greu cyfleoedd i’w gyd-chwaraewyr a methu ambell un arall ei hun.

Siomedig oedd prynhawn dydd Sul Joe Allen wrth i Lerpwl golli 2-0 yn erbyn Paul Dummett a Newcastle. Roedd perfformiadau’r ddau yn weddol, a hynny ar ôl i Allen serennu yn erbyn Southampton yng Nghwpan Capital One yng nghanol yr wythnos.

Mae’r pwysau’n cynyddu ar Abertawe ar ôl iddyn nhw golli 3-0 gartref i Gaerlŷr, gydag Ashley Williams a Neil Taylor yn chwarae gemau llawn i’r Elyrch ac Andy King yn dod oddi ar y fainc am dri munud i’r ymwelwyr.

Ar y fainc oedd James Collins i West Ham a James Chester i West Brom wrth i’w timau nhw gael gemau cyfartal, a doedd Ben Davies ddim hyd yn oed ymysg eilyddion Spurs.

Cip ar y Cymry – ystadegau’r tymor hyd yn hyn

Y Bencampwriaeth

Chwaraeodd Neal Eardley i Birmingham am y tro cyntaf ers mis Medi ar ôl dychwelyd o anaf, ond colli o 2-0 yn erbyn Emyr Huws a Huddersfield oedd eu hanes nhw.

Roedd David Vaughan ar y cae am 90 munud a Jonny Williams ar y fainc unwaith eto wrth i Nottingham Forest drechu Fulham o 3-0, gyda Vaughan yn creu un o’r goliau.

Dechreuodd Adam Henley a Tom Lawrence i Blackburn wrth iddyn nhw ennill i ffwrdd yn Bristol City o 2-0, gyda Wes Burns yn gwylio o fainc y tîm cartref.

Collodd Morgan Fox a Charlton o 3-2 yn erbyn Brighton er gwaethaf y ffaith eu bod nhw ddwy gôl ar y blaen o fewn pum munud, gyda Fox hefyd yn cael cerdyn melyn.

Colli 2-0 oedd hanes Sam Vokes gyda Burnley, tra bod Dave Edwards a Wolves wedi ennill o 2-0 yn Rotherham.

Ac yn ail rownd Cwpan FA Lloegr fe greodd Lee Evans un o goliau Bradford wrth iddyn nhw guro Chesham o 4-0.

Seren yr wythnos – Aaron Ramsey. Creu un a sgorio un wrth i Arsenal godi i ail yn y gynghrair.

Siom yr wythnos – Neil Taylor. Amddiffyn Abertawe ar chwâl eto, ond yn ffodus i Taylor mae ei le yn y tîm yn saff am rŵan gan bod Franck Tabanou wedi’i anafu.