Fe fu’n rhaid i gapten tîm pêl-droed Abertawe, Ashley Williams ac ymosodwr Caerlŷr, Riyad Mahrez gael eu gwahanu yn dilyn ffrwgwd oddi ar y cae yn Stadiwm Liberty nos Sadwrn.

Sgoriodd Mahrez hat-tric o goliau wrth i’r ymwelwyr drechu’r Elyrch o 3-0 yn yr Uwch Gynghrair, canlyniad sy’n cynyddu’r pwysau ar y rheolwr Garry Monk.

Mae’n ymddangos bod Mahrez yn anhapus am dacl Williams arno yn ystod hanner cynta’r ornest.

Fe fu’n rhaid i un o swyddogion yr ymwelwyr dywys Mahrez i ffwrdd o Williams i gyfeiriad y bws.

Funudau’n ddiweddarach, cerddodd Williams heibio’r wasg gan ofyn lle’r oedd bws yr ymwelwyr, cyn ceisio mynd at Mahrez.

Pan gafodd ei holi am y digwyddiad, dywedodd Garry Monk nad oedd yn ymwybodol o’r ffrae.

Gwrthododd llefarydd ar ran Abertawe a Chaerlŷr, sydd wedi codi i frig yr Uwch Gynghrair, wneud sylw am y mater.

Mae’r Elyrch bedwar pwynt uwchben y tri safle isaf, ac mae adroddiadau’r wasg yn awgrymu bod y cadeirydd Huw Jenkins wedi dechrau chwilio am reolwr newydd.

Yn ôl y bwcis, gallai cyn-reolwr Man U, David Moyes neu reolwr Glasgow Rangers, Mark Warburton gael cynnig y swydd pe bai Abertawe’n penderfynu diswyddo Monk.