Y Seintiau Newydd 3–0 Aberystwyth                                        

Roedd y Seintiau Newydd, deiliaid Cwpan Cymru rhy dda o lawer i Aberystwyth wrth iddynt ddechrau eu hamddiffyniad ar Neuadd y Parc nos Sadwrn.

Sgoriodd y Seintiau dair gôl i gyd mewn buddugoliaeth gyfforddus yn y drydedd rownd

Rheolodd y Seintiau o’r dechrau’n deg ac roeddynt ar y blaen wedi naw munud yn unig, Chris Marriott yn crymanu ei gic gornel yn syth i’r rhwyd gyda chymorth Mike Lewis yn y gôl i Aber.

Dyblwyd y fantais ychydig dros hanner ffordd trwy’r hanner pan wyrodd ergyd Chris Seargeant oddi ar sawdl Scott Quigley i gefn y rhwyd.

Roedd Aber braidd yn ffodus i beidio ag ildio cic o’r smotyn pan lawiodd Ross Stephens yn y cwrt ac roeddynt yn ymddangos yn fwy na bodlon i fynd i mewn ar hanner amser ddim ond ddwy ar ei hôl hi wedi hanner cyntaf yn erbyn y gwynt.

Dechreuodd yr ymwelwyr yr ail hanner fymryn yn well ac efallai y byddai hi wedi bod yn gêm wahanol pe na bai Paul Harrison wedi gwneud arbediad da i atal peniad cynnar Chris Venables.

Dechreuodd y Seintiau reoli eto yn raddol wrth i’r hanner fynd yn ei flaen ac roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel hanner ffordd trwy’r hanner wedi i Matty Williams benio croesiad cywir Simon Spender i gefn y rhwyd.

Bu bron i Aeron Edwards ychwanegu pedwaredd bum munud o’r diwedd ond gwnaeth Lewis arbediad gwych i’w atal yn isel i’w dde.

.

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, Spender, Evans, K. Edwards (Pryce 80’), Marriott, Seargeant, A. Edwards, Mullan (R. Edwards 87’), Williams, Cieslewicz, Quigley (Draper 73’)

Goliau: Marriott 9’, Quigley 26’, Williams 67’

Cerdyn Melyn: Willimas 60’

.

Aberystwyth

Tîm: Lewis, Corbisiero, S. Jones, James, Williams, Sherbon, Stephens, Jaques, Venables, Davies (T. Jones 88’), Griffiths (Thomas 72’)

Cardiau Melyn: Jones 53’, Griffiths 57’